dcsimg

Gwinwydden ( Galês )

fornecido por wikipedia CY

Enw am blanhigion yn perthyn o'r teulu Vitaceae yw Gwinwydden (Vitis spp.). Maent yn dwyn grawnwin fel ffrwyth, a defnyddir y rhain i gynhyrchu gwin. Vitis vinifera, sy'n dod o Asia yn wreiddiol, a ddefnyddir i gynhyrchu gwin yn fasnachol fel rheol, ond gellir defnyddio grawnwin nifer o rywogaethau eraill hefyd.

Ceir cofnod o dyfu gwinwydd ar gyfer gwin o gyfnod cynnar iawn yn yr Hen Aifft ac Asia Leiaf, efallai o'r cyfnod Neolithig. Erbyn hyn, tyfir gwinwydd ar draws y byd lle mae'r tywydd yn gymhedrol.

Yn ôl yr FAO, defnyddir 75,866 cilometr sgwar o dir trwy'r byd ar gyfer tyfu gwinwydd ar gyfer grawnwin. Gelwir y tir y tyfir y gwinwydd arno yn winllan.

Rhywogaethau

 src=
Mannau lle tyfir gwinwydd; data o 2005.
Gwlad Arwynebedd a ddefnyddir Sbaen 11,750 km² Ffrainc 8,640 km² Yr Eidal 8,270 km² Twrci 8,120 km² Unol Daleithiau 4,150 km² Iran 2,860 km² Romania 2,480 km² Portiwgal 2,160 km² Yr Ariannin 2,080 km² Awstralia 1,642 km²
licença
cc-by-sa-3.0
direitos autorais
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visite a fonte
site do parceiro
wikipedia CY

Gwinwydden: Brief Summary ( Galês )