dcsimg

Iâr ddŵr ( gallois )

fourni par wikipedia CY
 src=
Gallinula chloropus

Mae'r Iâr Ddŵr (Gallinula chloropus) yn aderyn cyffredin mewn rhannau helaeth o'r byd. Yr unig gyfandiroedd lle nad yw'n byw yr Awstralasia ac Antarctica.

Mae'n aderyn dŵr, yn aml yn gyffredin hyd yn oed ar byllau bychain neu mewn corsydd. Gall fod yn anodd ei weld ac yn cadw o'r golwg, ond weithiau mae'n gallu arfer a phobl a dod yn ddof. Mae ei blu i gyd yn ddu heblaw am y gwyn o dan y gynffon. Mae adar ieuanc yn fwy brown, ac heb y coch ar y pig.

Adeiladir y nyth ar y llawr, yn agos i'r dŵr fel rheol. Mae'n gallu magu cywion o leiaf ddwywaith mewn blwyddyn, ac weithiau gellir gweld y cywion hŷn yn helpu'r rhieni i fwydo'r rhai iau.

licence
cc-by-sa-3.0
droit d’auteur
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visiter la source
site partenaire
wikipedia CY