Y grŵp o arachnidau sy'n cynnwys gwiddon a throgod yw Acari (neu Acarina). Maent yn fach iawn fel rheol ond mae'r rhywogaethau mwyaf yn 10–20 mm o hyd. Ceir gwiddon a throgod mewn niferoedd enfawr mewn llawer o gynefinoedd gwahanol. Mae mwy na 50,000 o rywogaethau wedi cael eu darganfod hyd yn hyn. Mae rhai ohonynt yn barasitiaid ac mae rhai eraill yn achosi difrod i gnydau.