Masarnen neu Jacmor, Acer pseudoplatanus (Saesneg: Sycamore neu Sycamore Maple).
Rhywogaeth o fasarnen sy'n frodorol i Ewrop ac de-orllewin Asia. Taldra hyd at 35 m.[1]
Defnyddir ei sudd i wneud surop masarn.
Cafwyd casgliad-benthyg o gyfres o ddyddiaduron gan ffermwr ALlJ (nid yw am i ni gyhoeddi ei enw) o waelod Harlech. Mae’r cofnodion yn drwyadl iawn ac mae ynddynt aml i gofnod tymorol cyson o’r gog yn canu am y tro cyntaf ar wennol yn cyrraedd. Y math mwyaf cyson o gofnod sydd ganddo yw cyfres hir o ddyddiadau deilio UN fasarnen ym muarth y fferm. Gosodwyd y cofnodion hyn fel graff (isod). Mae'n awgrymu bod deilio hwyr yn cydfynd efo gwanwyn "hwyr" a deilio cynnar yn cydfynd efo gwanwyn "cynnar". Mae'r graff hefyd yn awgrymu (ond heb sail ystadegol cryf) bod y fasarnen yn tueddu i ddeilio'n gynt yn ddiweddarach (llinell yn gwyro at i lawr i'r dde).[2]
Mae’r goeden gyflwynedig hon yn dwyn mwy o enwau Cymraeg na‘n holl goed cynhenid Ar wahan i masarnen mae jacmor sy’n dalfyriad o sycamor, a jacan yn dalfyriad o hwnnw.[angen ffynhonnell] Mae “sycamor” yn tarddu o sycamor y Beibl, coeden gwahanol iawn. Fe barchuswyd yr enw yn ddiweddarach fel ”sycamorwydden”[angen ffynhonnell]. Mae peth tystiolaeth bod yr enw yn amharchus.
[Dyfyniad y Beibl]
Masarnen neu Jacmor, Acer pseudoplatanus (Saesneg: Sycamore neu Sycamore Maple).
Rhywogaeth o fasarnen sy'n frodorol i Ewrop ac de-orllewin Asia. Taldra hyd at 35 m.
Defnyddir ei sudd i wneud surop masarn.