dcsimg

Eryr y môr ( Galèis )

fornì da wikipedia CY

Eryr yn perthyn i'r genws Haliaeetus a'r teulu Accipitridae yw Eryr y Môr (Haliaeetus albicilla). Mae'n perthyn yn agos i'r Eryr Moel.

Mae Eryr y Môr yn aderyn mawr, 69 – 91 cm (27 – 36 modfedd) o hyd a 182 – 238 cm (72 – 94 modfedd) ar draws yr adenydd. Pwysa'r ieir 4 – 6.9 kg (8.8–15.2 pwys), tra mae'r ceiliogod yn llai, 3 – 5.4 kg (6.6–12 pwys). Saif yn bedwerydd ymhlith eryrod y byd o ran maint.

Mae'n nythu ar draws gogledd Ewrop a gogledd Asia. Ceir poblogaeth fwyaf Ewrop o gwmpas arfordir Norwy. Pysgod ac adar yw eu prif fwyd, ond gall mamaliaid bychain fod yn bwysig hefyd.

Diflannodd y rhywogaeth o'r Alban yn y 19g, ond yn 1975, gollyngwyd nifer o adar ar ynys Rùm i geisio ei adfer. Mae'r eryr yma yn awr yn nythu ar draws Ynysoedd Heledd a rhai ar dir mawr yr Alban. Mae rhaglen i geisio adfer y rhywogaeth i Iwerddon, a bu awgrym y gellid gwneud yr un peth yng Nghymru. Nid oes sicrwydd a fu'r rhywogaeth yn nythu yng Nghymru yn y gorffennol ai peidio, ond mae'n bosibl fod rhai o'r cyfeiriadau at "eryr" yn cyfeirio at y rhywogaeth yma yn hytrach na'r Eryr Euraid.

licensa
cc-by-sa-3.0
drit d'autor
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visité la sorgiss
sit compagn
wikipedia CY