dcsimg

Gwiwer ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Anifail cymharol fach, gyda chynffon blewog iawn yw'r wiwer, sy'n perthyn i deulu'r Sciuridae, sy'n cynnwys aelodau eraill fel y chipmunk a'r marmotiaid. Fe'i nbodweddir gan gynffon hir flewog a'i chwimdra wrth ddringo a neidio drwy ganghennau coed. Mae gwiwerod i'w cael ym mhob cyfandir heblaw am Awstralia ac Antarctica; cyflwynwyd nhw i Awstralia dros ganrif a hanner yn ôl.[1]

Mae gwiwerod yn byw yn bennaf mewn coedwigoedd, gan fwyta'r cnau maent wedi eu casglu ar gyfer y gaeaf. Yng ngwledydd Prydain, mae niferoedd y wiwer goch (Sciurus vulgaris) wedi gostwng yn sylweddol, ond mae hi'n dal i fyw mewn ambell i le yng Nghymru. Ym mwyafrif Ynysoedd Prydain mae'r wiwer lwyd (Sciurus carolinensis) a gyflwynwyd o Ogledd America wedi gyrru'r wiwer goch i ffwrdd. Amcangyfrifir bod 85% o wiwerod cochion Prydain yn byw yn yr Alban. Yn Lloegr, Ynys Wyth yw cadarnle'r wiwer goch.

 src=
Gwiwer goch gyda chlustiau'r gaeaf

Gwyddom fod y wiwer yn byw yn ystod yr epoch Eocene ac mae'n perthyn yn eithaf agos i Ddyfrgi'r mynydd a'r llyg.

Tarddiad y gair

Perthyna'r gair i'r Lladin viverra (a olygai "ffured") ac fe'i geir yn yr Hen Lydaweg fel "guiufher". Cofnodir y gair am y tro cyntaf yn y Gymraeg yng Nghyfreithiau Hywel Dda: Tair cont cyfreithiawl y sydd: cont gast, a chont cath a chont gwiweir.[2]

Cyfeiriadau

  1. Seebeck, J. H. "Sciuridae" (PDF). Fauna of Australia. Cyrchwyd 2013-11-24.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru; Cyfrol II; tudalen 1673.
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Gwiwer: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Anifail cymharol fach, gyda chynffon blewog iawn yw'r wiwer, sy'n perthyn i deulu'r Sciuridae, sy'n cynnwys aelodau eraill fel y chipmunk a'r marmotiaid. Fe'i nbodweddir gan gynffon hir flewog a'i chwimdra wrth ddringo a neidio drwy ganghennau coed. Mae gwiwerod i'w cael ym mhob cyfandir heblaw am Awstralia ac Antarctica; cyflwynwyd nhw i Awstralia dros ganrif a hanner yn ôl.

Mae gwiwerod yn byw yn bennaf mewn coedwigoedd, gan fwyta'r cnau maent wedi eu casglu ar gyfer y gaeaf. Yng ngwledydd Prydain, mae niferoedd y wiwer goch (Sciurus vulgaris) wedi gostwng yn sylweddol, ond mae hi'n dal i fyw mewn ambell i le yng Nghymru. Ym mwyafrif Ynysoedd Prydain mae'r wiwer lwyd (Sciurus carolinensis) a gyflwynwyd o Ogledd America wedi gyrru'r wiwer goch i ffwrdd. Amcangyfrifir bod 85% o wiwerod cochion Prydain yn byw yn yr Alban. Yn Lloegr, Ynys Wyth yw cadarnle'r wiwer goch.

 src= Gwiwer goch gyda chlustiau'r gaeaf