Aderyn a rhywogaeth o adar yw Siglen felen (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: siglennod melynion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Motacilla flava; yr enw Saesneg arno yw Yellow wagtail. Mae'n perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn M. flava, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n oer mae'r Siglen Felen yn aderyn mudol, sy'n mudo o Affrica a de Asia i aeafu. Yng ngorllewin Ewrop nid yw'n symud ymhell. Mae'n aderyn o 15 – 16 cm o hyd, gyda chynffon sy'n fyrrach na'r siglennod eraill a geir yn Ewrop, er enghraifft y Siglen Lwyd. Ceir cryn amrywiaeth yn yr is-rywogaethau, yn enwedig yn lliw y pen, ond yn gyffredionol mae'r aderyn yn wyrdd-frown ar y cefn ac yn felyn ar y bol.
Ar un adeg roedd y M. f. flavissima yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, yn enwedig yn y dwyrain, ond bellach ychydig sy'n nythu yma. Gwelir nifer o'r is-rywogaethau eraill o dro i dro yn ystod y tymor mudo, yn enwedig M. f. flava (Siglen Benlas).
Mae'r siglen felen yn perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth enw tacson delwedd Aderyn hirewin Sharpe Hemimacronyx sharpei Corhedydd euraid Tmetothylacus tenellus Corhedydd gyddfgoch Anthus cervinus Corhedydd melyn Anthus campestris Corhedydd y coed Anthus trivialis Corhedydd y dŵr Anthus spinoletta Corhedydd y waun Anthus pratensis Siglen felen Motacilla flava Siglen goedwig Dendronanthus indicus Siglen Lwyd Motacilla cinerea Siglen sitraidd Motacilla citreola Siglen wen Motacilla alba Telor hirbig Bocage Amaurocichla bocagiiAderyn a rhywogaeth o adar yw Siglen felen (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: siglennod melynion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Motacilla flava; yr enw Saesneg arno yw Yellow wagtail. Mae'n perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn M. flava, sef enw'r rhywogaeth.