Perlysieuyn digon cyffredin ydy Llysiau'r bara, Brwysgedlys neu weithiau yn ddiweddar: Coriander (Sa: Coriander; Lladin: Coriandrum sativum). O dde-orllewin Asia a gogledd Affrica y daeth yn wreiddiol. Gall dyfu hyd at 50 cm o uchder ac mae'r dail yn amrywio o ran siap ond yn teneuo wrth fynd i fyny'r planhigyn.
Fe'i defnyddiwyd ers canrifoedd yn Iran oherwydd ei allu i leihau gordyndra ('anxiety') ac i ymlacio'r claf. Arferid defnyddio'r hadau yno hefyd yn ogystal â'r dail.[1]
Credir hefyd y gall gynorthwyo i dreulio bwyd ac i wella poen bol.[2]