dcsimg

Morlo Llwyd ( 威爾斯語 )

由wikipedia CY提供

Ceir y Morlo Llwyd (Halichoerus grypus) ar ddwy ochr Môr Iwerydd; ef yw'r mwyaf cyffredin o'r ddwy rywogaeth o Forlo o gwmpas arfordir Cymru. Mae'n perthyn i deulu'r Phocidae, y "gwir forloi", a dyma'r unig rywogaeth yn y genws Halichoerus.

 src=
Dosbarthiad y Morlo Llwyd.

Morlo gweddol fawr yw'r Morlo Llwyd, gyda'r gwrywod yn cyrraedd 2.5 - 3 metr o hyd a phwysau o hyd at 300 kg; mae'r benywod yn llai, 1.6 - 2.0 metr o hyd ac yn pwyso 150 kg. Pysgod o wahanol fathau yw eu bwyd, a gallant blymio i ddyfnder o 70 metr neu fwy i'w dal. Genir y cenawon (sef y morloi ifance) rhwng Medi a Thachwedd;

Amcangyfrifir fod poblogaeth o tua 5,000 o gwmpas arfordir Cymru i'r de o Aberystwyth, yn magu 1,300 o loi bach yn ôl amcangyfrif yn 2000.

 src=
Morloi llwydion wedi tynnu allan ar Bae Dyniawed, Bae Penrhyn 6 Rhagfyr 2018. Mae Dyniawed (môr) yn enw arall ar forlo

Bwyd

Pysgod o bob math ac anifeiliaid eraill y môr, er enghraifft, y gath fôr felen:

Ymrafael rhwng morlo a chath fôr:

 src=
Morlo yn ymrafael â chath fôr felen yn y môr ger Trwyn Eilian, Ynys Môn.
Tynnodd Alun Williams y llun yma o Drwyn Eilian, Sir Fôn (SH479937).

Cadarnhaodd yr arbenigwr bywyd môr Sion Roberts: “...cath fôr wedi ei dal gan forlo. Efallai mai Raja brachyura, y gath fôr felen, yw'r 'sgodyn.[1]

fideo, gydag isdeitlau Cymraeg o fonitro a chadwraeth

Enwau lleoedd

Bae bychan ger Trwyn y Fuwch, ardal Bae Penrhyn, Llandudno, yw Porth Dyniewaid. Mae'r enw'n ddiddorol ac mae sawl sillafiad gwahanol a dau ystyr. Buwch ifanc rhwng blwydd a dyflwydd, neu fustach yw un ystyr. Mae'r llall, sef 'morlo ifanc' yn gwneud mwy o synnwyr. Gwelwyd llawer o forloi yno ar y 6 Ionawr 2019. Yn ôl un person roedd yno 47. Ar dudalen o'r cylchgrawn You Know you are from Llandudno mae rhywun wedi cyfri dros 70.Facebook.

Cysylltiad allanol

  • Sion Roberts ym Mwletin Llên Natur rhifyn 56
  • 許可
    cc-by-sa-3.0
    版權
    Awduron a golygyddion Wikipedia
    原始內容
    參訪來源
    合作夥伴網站
    wikipedia CY

    Morlo Llwyd: Brief Summary ( 威爾斯語 )

    由wikipedia CY提供

    Ceir y Morlo Llwyd (Halichoerus grypus) ar ddwy ochr Môr Iwerydd; ef yw'r mwyaf cyffredin o'r ddwy rywogaeth o Forlo o gwmpas arfordir Cymru. Mae'n perthyn i deulu'r Phocidae, y "gwir forloi", a dyma'r unig rywogaeth yn y genws Halichoerus.

     src= Dosbarthiad y Morlo Llwyd.

    Morlo gweddol fawr yw'r Morlo Llwyd, gyda'r gwrywod yn cyrraedd 2.5 - 3 metr o hyd a phwysau o hyd at 300 kg; mae'r benywod yn llai, 1.6 - 2.0 metr o hyd ac yn pwyso 150 kg. Pysgod o wahanol fathau yw eu bwyd, a gallant blymio i ddyfnder o 70 metr neu fwy i'w dal. Genir y cenawon (sef y morloi ifance) rhwng Medi a Thachwedd;

    Amcangyfrifir fod poblogaeth o tua 5,000 o gwmpas arfordir Cymru i'r de o Aberystwyth, yn magu 1,300 o loi bach yn ôl amcangyfrif yn 2000.

     src= Morloi llwydion wedi tynnu allan ar Bae Dyniawed, Bae Penrhyn 6 Rhagfyr 2018. Mae Dyniawed (môr) yn enw arall ar forlo
    許可
    cc-by-sa-3.0
    版權
    Awduron a golygyddion Wikipedia
    原始內容
    參訪來源
    合作夥伴網站
    wikipedia CY