dcsimg

Llwyn cwrens duon ( Galèis )

fornì da wikipedia CY

Planhigyn blodeuol collddail ag arni ffrwyth bwytadwy yw Llwyn cwrens duon sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Grossulariaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Ribes nigrum a'r enw Saesneg yw Black currant.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Rhyfon Duon, Coeden Gyrains, Cyrains Duon, Eurddraenen Ddu, Rhesinwydd Du, Rhesinwydd Duon, Rhyfwydd Duon, Rhyfwydden Ddu.

Mae'n perthyn yn agor i'r cwraints duon, cwraints cochion ac Eirin Mair. Mae hefyd yn perthyn i'r genws Ribus, sef tarddiad y gair masnachol Robena.

Enwau

  • Yr enw generig Lladin yw Ribes, a addaswyd fel y brand-enw am ddiod honedig llesol Ribena Ribena bottle (front label closeup).jpg

Mae’n debyg mai tarddiad yr enw Cymraeg “rhyfon” yw ribes hefyd. Dyma Eiriadur Prifysgol Cymry:

rhyf
[?bnth. dysg. Llad. Diw. rib(es), cf. rhyfwydd] eg. (bach. g. rhyfyn) ll. rhyfion, rhyfon (un. b. rhyfonen).
Cyrensen; eirinen Mair, gwsberen; aeronen; ?llwyn cyrans neu eirin Mair:
18-19g. Llr C 36 220, Berry … Rhŷf, Rhyfyn.
18-19g. Llr C 51 241, Rhyfonen Rhyfon … Rhŷf ribes, goosberies.
1801 MMf 292, Rhibes, rhyf … rhyfon.
1803 P, Rhyv, s. m.—pl. t. ion … a berry; a currant.
1813 WB 232, Rhyf: Rhyfon; Ribes;—Currant.
Ar lafar, ‘ryfon’ ‘cyrens’, GTN 699.
  • Yr oedd fy mam yn arfer galw cyrens cochion yn Ribiserl yn nhafodiaeth Almaeneg o Awstria. Mae'r Almaenwyr ‘go iawn’ yn cyfeirio at y ffrwythau duon fel Johanisbeere, hynny yw, aeron Ieuan.[2]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Lari Parc ym Mwletin Llên Natur rhifyn 41[1]
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
licensa
cc-by-sa-3.0
drit d'autor
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visité la sorgiss
sit compagn
wikipedia CY

Llwyn cwrens duon: Brief Summary ( Galèis )

fornì da wikipedia CY

Planhigyn blodeuol collddail ag arni ffrwyth bwytadwy yw Llwyn cwrens duon sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Grossulariaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Ribes nigrum a'r enw Saesneg yw Black currant. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Rhyfon Duon, Coeden Gyrains, Cyrains Duon, Eurddraenen Ddu, Rhesinwydd Du, Rhesinwydd Duon, Rhyfwydd Duon, Rhyfwydden Ddu.

Mae'n perthyn yn agor i'r cwraints duon, cwraints cochion ac Eirin Mair. Mae hefyd yn perthyn i'r genws Ribus, sef tarddiad y gair masnachol Robena.

licensa
cc-by-sa-3.0
drit d'autor
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visité la sorgiss
sit compagn
wikipedia CY