dcsimg

Eliffant Asiaidd ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Un o'r tri rhywogaeth o Eliffant sy'n fyw heddiw yw'r Eliffant Asiaidd (Elephas maximus). Fe'i gelwir weithiau yn Eliffant Indiaidd, enw un o'r tri is-rywogaeth. Er ei fod ychydig yn llai na'r Eliffant Affricanaidd, ef yw'r mamal tir sych mwyaf yn Asia.

Fe'i ceir yn Bangladesh, India, Sri Lanca, Indo-Tsieina a rhannau o Nepal ac Indonesia (yn enwedig Borneo), Fietnam a Gwlad Tai. Fel anifail gwyllt, ystyrir ei fod mewn perygl, gyda rhwng 41,410 a 52,345 yn weddill. Gellir ei ddofi yn gymharol hawdd, a defnyddir cryn nifer ohonynt ar gyfer gwahanol dasgau mewn gwahanol rannau o Asia.

 src=
Dosbarthiad yr Eliffant Asiaidd
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY