Genws o blanhigion blodeuol yw Antirrhinum. Mae tua 20 rhywogaeth i'w canfod yng ngorllewin Ewrop a gogledd Affrica.[1][2][3] Yn flaenorol, roedd tair adran i'r genws: Antirrhinum, Orontium a Saerorhinum. Fodd bynnag, mae Orontium a Saerorhinum wedi eu gwahanu o'r genws ac maent bellach yn y genera Misopates a Sairocarpus, yn y drefn honno.[1][4][5]
Mae'r genws Antirrhinum yn amryfath o ran morffoleg, ac mae llawer o'r rhywogaethau wedi addasu ar gyfer cynefinoedd gwahanol iawn, yn aml gydag amgylcheddau eithafol. Er hyn, gall pob aelod o'r genws groesi â'i gilydd, gan roi cymysgrywiau ffrwythlon. Mae llawer o ymchwil gwyddonol wedi defnyddio'r gallu croesi yma er mwyn dynodi a deall mecanweithiau genetig sy'n tanseilio gwahaniaethau rhwng rhywogaethau.[6]
Er fod maint blodau gwahanol rywogaethau Antirrhinum yn amrywiol, gwelir yr un siap cyffredinol ym mhob un aelod. Mae'r pum petal wedi asio at ei gilydd am ran o'u hyd i ffurfio tiwb. Mae'r tiwb hwn wedi ei gau gan ddwy wefus, gyda'r wefus uchaf (dwy betal) yn pwyntio i fyny a'r wefus isaf (tair petal) wedi plygu i ffurfio platfform glanio ar gyfer peillwyr. Gwenyn gwyllt mawr (bumblebees, Bombus) sy'n peillio'r rhywogaethau â'r blodau mwyaf (is-adrannau Antirrhinum a Streptosepalum tra bo gwenyn unig (solitary bees) yn peillio rhywogaethau â blodau llai (is-adran Kickxiella.[6]
Mae 17 rhywogaeth wedi eu derbyn ar restr planhigion The Plant List:[1][7]
Genws o blanhigion blodeuol yw Antirrhinum. Mae tua 20 rhywogaeth i'w canfod yng ngorllewin Ewrop a gogledd Affrica. Yn flaenorol, roedd tair adran i'r genws: Antirrhinum, Orontium a Saerorhinum. Fodd bynnag, mae Orontium a Saerorhinum wedi eu gwahanu o'r genws ac maent bellach yn y genera Misopates a Sairocarpus, yn y drefn honno.