Mamal yw'r aardvark (enw rhywogaeth Lladin Orycteropus afer) a geir mewn rhannau o Affrica. Daw'r enw o'r iaith Afrikaans ac mae'n golygu "mochyn daear". Ceir hefyd yr enwau Cymraeg baedd daear (gwryrwaidd, lluosog: baeddod daear) a grugarth (benywaidd, lluosog: grugeirth).[1] Yr aardvark yw unig aelod ei urdd, Tubulidentata.
Anifail nosol yw'r aardvark. Mae oedolion yn tyfu i hyd at 1.5m. Mae'n byw mewn tiroedd glaswelltog fel y savannah ac mae ganddo drwyn hir, clustiau mawr a chynffon dew.
Defnyddia'r aardvark ei grafangau hir i dyllu ffau yn y ddaear ac agor twmpathau morgrug gwynion (termites) i'w llyfu i fyny â'i dafod hir.
Mamal yw'r aardvark (enw rhywogaeth Lladin Orycteropus afer) a geir mewn rhannau o Affrica. Daw'r enw o'r iaith Afrikaans ac mae'n golygu "mochyn daear". Ceir hefyd yr enwau Cymraeg baedd daear (gwryrwaidd, lluosog: baeddod daear) a grugarth (benywaidd, lluosog: grugeirth). Yr aardvark yw unig aelod ei urdd, Tubulidentata.