Homo yw'r rhywogaeth (genws) sy'n cynnwys dynolryw a'u perthnasau agosaf. Tybir fod y genws yn bodoli ers tua 1.5 i 2.5 miliwn o flynyddoedd. Mae pob rhywogaeth ac eithrio Homo sapiens wedi darfod o'r tir. Darfod fu hanes Homo neanderthalensis, y rhywogaeth olaf ac eithrio dyn, tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl (ond yn ddiweddar ceir tystiolaeth sy'n awgrymu i Homo floresiensis fyw hyd at mor ddiweddar â 10,000 CC).
Mae'r rhan fwyaf o wyddonwyr yn meddwl fod y gwahaniaeth rhwng dyn a'r gorila a tsimpansî yn rhy fawr iddyn nhw fod yn rhan o'r un genws, er eu bod fel arall yn agos iawn i ni. Y genws agosaf i Homo yw Kenyanthropus platyops, sydd efallai'n genws hynafiad. Yn nesaf, trwy'r genws hwnnw, mae homo yn perthyn i'r genera Paranthropus ac Australopithecus, a adawsant stema'r egin-Homo tua 5 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Yn 2015 roedd y rhywogaethau canlynol dan ystyriaeth: Australopithecus garhi, Australopithecus sediba, Australopithecus africanus, a Australopithecus afarensis ond heb eu cadarnhau.
Gall hynafiad uniongyrchol llinach Homo fod yn un o sawl rhywogaeth gan gynnwys: Australopithecus garhi, Australopithecus sediba, Australopithecus africanus, ac Australopithecus afarensis.[1] Mae sawl nodwedd o forffoleg pob un o'r rhain yn debyg iddo, ond ceir anghytundeb pa un sydd agosaf. Esblygodd Homo'n gyntaf ar yr un pryd a dau ddigwyddiad: yn gyntaf y defnydd cyntaf o offer carreg, sef Hen Oes y Cerrig Isaf ac yn ail cychwyn y rhewlifiad cwaternaidd, sef cychwyn yr Oes iâ cyfredol.
Yn 2015 darganfuwyd asgwrn y gên 2.8 miliwn CP, a all fod y ddolen rhwng Australopithecus a Homo, yn Ardal Afar, Ethiopia.[2] Mae rhai anthropolegwyr yn mynnu i Homo ddechrau dros 3 miliwn CP drwy gynnwys y ffosil Kenyanthropus a ddyddiwyd i 3.2 -3.5 miliwn CP.[3]