Dosbarth tacsonomegol, enfawr - a elwir yn gyffredin yn falwod a gwlithod yw'r gastropod, sy'n cynnwys y ffylwm Molwsg (Lladin: Mollusca). Mae'r dosbarth hwn yn cynnwys miloedd o wahanol rywogaethau o falwod a gwlithod o wahanol faint, ac o wahanol gynefinoedd: môr a thir, dŵr croyw a dŵr hallt, malwod cyffredin, malwod morol, llygaid meheryn a gwlithod. Yr hen enw i'r dosbarth hwn o rywogaethau oedd 'ungloriog' neu'r 'ungragennog' (Saesneg: univalves).
Y dosbarth Gastropoda yw'r ail ddosbarth mwyaf o rywogaethau, y mwyaf yw dosbarth y pryfaid (neu insecta)[2]. Ceir 611 teulu o gastropau, gyda 202 ohonynt wedi darfod, gyda'u ffosiliau'n unig ar gael. Amcangyfrifir bod rhwng 60,000 a 80,000 o rywogaethau gwahanol o goastropodau.[3][4]
Gellir olrhain y gastropod, drwy ffosiliau, yn ôl i gyfres ola'r cyfnod daearegol Cambriaidd, sef 501 to 488.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Cyfnod daearegol rhwng y Cyfnodau Neoproterosöig ac Ordofigaidd oedd y Cambriaidd. Dechreuodd tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl a gorffennodd tua 488.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Dosbarth tacsonomegol, enfawr - a elwir yn gyffredin yn falwod a gwlithod yw'r gastropod, sy'n cynnwys y ffylwm Molwsg (Lladin: Mollusca). Mae'r dosbarth hwn yn cynnwys miloedd o wahanol rywogaethau o falwod a gwlithod o wahanol faint, ac o wahanol gynefinoedd: môr a thir, dŵr croyw a dŵr hallt, malwod cyffredin, malwod morol, llygaid meheryn a gwlithod. Yr hen enw i'r dosbarth hwn o rywogaethau oedd 'ungloriog' neu'r 'ungragennog' (Saesneg: univalves).
Y dosbarth Gastropoda yw'r ail ddosbarth mwyaf o rywogaethau, y mwyaf yw dosbarth y pryfaid (neu insecta). Ceir 611 teulu o gastropau, gyda 202 ohonynt wedi darfod, gyda'u ffosiliau'n unig ar gael. Amcangyfrifir bod rhwng 60,000 a 80,000 o rywogaethau gwahanol o goastropodau.