Grŵp a theulu o adar dyfrol ydy'r Crehyrod (enw gwyddonol neu Ladin: Ardeidae).[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Pelecaniformes.[2][3]
Mae coesau aelodau'r teulu hwn o adar yn fain ac yn hir iawn. Gallant fyw ar arfordiroedd morol neu lynnoedd a phyllau o ddŵr croyw. Ceir 64 rhywogaeth. Gallant hefyd ymddangos yn hynod o debyg i nifer o deuluoedd eraill e.e. y Ciconiad a'r Ibisiaid, y Llwybig a'r Garannod, ond tra'n hedfan, ceir cryn gwahaniaeth rhyngddynt gan fod eu gyddfau wedi'u tynnu yn ôl, a'r lleill yn syth ymlaen. Mae rhai rhywogaethau'n byw mewn coed ac eraill mewn corsydd o frwyn.
Rhestr Wicidata:
teulu enw tacson delwedd Aderyn bwn bach Ixobrychus exilis Aderyn bwn cefn rhesog Ixobrychus involucris Aderyn bwn cefnddu Ixobrychus dubius Aderyn bwn du Ixobrychus flavicollis Aderyn bwn lleiaf Ixobrychus minutus Aderyn bwn melynllwyd Ixobrychus cinnamomeus Aderyn bwn Schrenk Ixobrychus eurhythmus Aderyn bwn Tsieina Ixobrychus sinensis Butorides striata Butorides striata Coraderyn bwn Ixobrychus sturmii Crëyr gwyrdd Butorides virescens Crëyr rhesog cochlyd Tigrisoma lineatum Crëyr rhesog gyddf-foel Tigrisoma mexicanum Crëyr rhesog tywyll Tigrisoma fasciatum