Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw siobyn gwelw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy siobynnau gwelw (-on); yr enw Saesneg yw Pale Tussock, a'r enw gwyddonol yw Calliteara pudibunda.[1][2] Mae i'w ganfod yn Ewrop ac Anatolia.
40–60 mm ydy lled adenydd agored yr oedolyn ac mae'n hedfan rhwng Ebrill a Mehefin. Prif fwyd y lindys ydy mathau gwahanol o: dderwen, helygen, bedwen, Prunus a Crataegus.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r siobyn gwelw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Y siobyn gwelw efallai yw’r unig wyfyn yng ngwledydd Prydain sydd ag enw gwerinol naturiol (yn hytrach nag enw sydd wedi ei fathu). Pale tussock yw’r enw safonol Saesneg ond roedd y cyweinwyr hopys yng Nghaint yn arfer ei alw yn HOP DOG - roedd dail hopys yn fwyd i’r lindys ac roedd rhain yn greaduriaid cyfarwydd iawn i’r Llundeinwyr a arferai dreulio eu “gwyliau” haf yn cywain hopys i’r cwmnïau bragu.[3]
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw siobyn gwelw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy siobynnau gwelw (-on); yr enw Saesneg yw Pale Tussock, a'r enw gwyddonol yw Calliteara pudibunda. Mae i'w ganfod yn Ewrop ac Anatolia.
40–60 mm ydy lled adenydd agored yr oedolyn ac mae'n hedfan rhwng Ebrill a Mehefin. Prif fwyd y lindys ydy mathau gwahanol o: dderwen, helygen, bedwen, Prunus a Crataegus.
♂
♀