Planhigyn blodeuol yw Betysen arfor sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Amaranthaceae yn y genws Beta. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Beta maritima((L.) Arcangeli.[1]) a'r enw Saesneg yw Sea beet. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Betys Gwyllt, Beatws, Betysen, Betysen-y-môr, Melged, Melged Arfor.
Mae'n frodorol o arfordir Ewrop a de Asia. Mae i'w gael hefyd ar arfordir Cymru, fel yr awgryma'r enw 'ar + fôr. Dyma un o hynafiaid y fetysen sydd ar y bwrdd bwyd heddiw.
Mae'n blanhigyn lluosflwydd ac yn tyfu i uchder o 1.2 m. Mae'n blodeuo yn yr haf ac nid oes ganddo stipwl (neu ddeilen fach); y gwynt sy'n ei beillio. Fel arfer mae'r dail yn ddanheddog.
Planhigyn blodeuol yw Betysen arfor sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Amaranthaceae yn y genws Beta. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Beta maritima((L.) Arcangeli.) a'r enw Saesneg yw Sea beet. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Betys Gwyllt, Beatws, Betysen, Betysen-y-môr, Melged, Melged Arfor.