Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw rhisglyn y derw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy rhisgl y derw; yr enw Saesneg yw Oak Beauty, a'r enw gwyddonol yw Biston strataria.[1][2] Mae i'w ganfod yng ngwledydd Prydain a rhannau eraill o Ewrop.
40 to 56 mm ydy lled ei adenydd agored.
Prif fwyd y lindysyn ydy dail a rhisgl y y dderwen, llwyfen (Ulmus spp.), collen (Corylus avellana), Aethnen (Populus tremula) a'r wernen (Alnus glutinosa).<[3].
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r rhisglyn y derw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Mae’r lindys yn bwyta dail derw, llwyfen, cyll, aethnen, gwern a choed eraill[4].
Mae’r oedolyn yn hedfan ym misoedd Mawrth ac Ebrill ar ôl gaeafu fel chwiler. Un genhedlaeth y flwyddyn sydd ganddo[4].
Eang ei ddosbarthiad yn Nghymru ac ym Mhrydain heb fod yn anghyffredin. Yn fwyclytiog yn ne yr Alban ac Iwerddon[4].
Mae B.s. amr. melanaria yn ffurf unlliw du a gofnodwyd o Gaint, Surrey a Hampshire. Digwydd ffurfiau llai eithafol gyda lliw y ddwy asgell yn niwl o frown tywyll yn amlach[4]
|url=
value (help). Catalogue of the Lepidoptera of Belgium. Flemish Entomological Society. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2008. Unknown parameter |coauthors=
ignored (help) Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw rhisglyn y derw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy rhisgl y derw; yr enw Saesneg yw Oak Beauty, a'r enw gwyddonol yw Biston strataria. Mae i'w ganfod yng ngwledydd Prydain a rhannau eraill o Ewrop.
40 to 56 mm ydy lled ei adenydd agored.
Prif fwyd y lindysyn ydy dail a rhisgl y y dderwen, llwyfen (Ulmus spp.), collen (Corylus avellana), Aethnen (Populus tremula) a'r wernen (Alnus glutinosa).