dcsimg

Trochydd mawr ( الويلزية )

المقدمة من wikipedia CY

Mae'r Trochydd Mawr (Gavia immer) yn un o aelodau mwyaf teulu'r Trochwyr, tua 73–88 cm o hyd a 122–148 cm ar draws yr adenydd ac yn pwyso rhwng 2.7 a 6.3 kg .

Mae'n nythu ar draws Canada a rhannau gogleddol yr Unol Daleithiau ac yng Ngwlad yr Iâ. Mae'n nythu yn agos i ddŵr, ar lynnoedd fel rheol ac yn dodwy dau wy. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de ac mae'n weddol gyffredin ar y môr ger glannau gogledd-orllewin Ewrop.

Yn y tymor nythu mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda pen du, bol gwyn a marciau du a gwyn ar y cefn. Yn y gaeaf mae llai o ddu a mwy o wyn ar y pen a'r gwddf. Pysgod yw ei brif fwyd, ac maent yn cael eu dal trwy blymio i'r dŵr, weithiau hyd at ddyfnder o 200 troedfedd. Yn y tymor nythu mae gan yr aderyn yma alwad nodweddiadol iawn.

Mae'r aderyn yma yn weddol gyffredin o gwmpas glannau môr Cymru yn y gaeaf. Y lle gorau i'w gweld yw o gwmpas Aberdesach lle gellir gweld hyd at 30 ohonynt ambell dro.

Aelodau eraill y teulu

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd Trochydd gyddfddu Gavia arctica Trochydd gyddfgoch Gavia stellata
Gavia stellata -Iceland -swimming-8.jpg
Trochydd mawr Gavia immer
Gavia immer -Minocqua, Wisconsin, USA -swimming-8.jpg
Trochydd pigwyn Gavia adamsii
Yellow-billed Loon Chipp South 8-12-13 Ryan Askren.jpg
Trochydd y Môr Tawel Gavia pacifica
PacificLoon24.jpg
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
 src=
Gavia immer
ترخيص
cc-by-sa-3.0
حقوق النشر
Awduron a golygyddion Wikipedia
النص الأصلي
زيارة المصدر
موقع الشريك
wikipedia CY

Trochydd mawr: Brief Summary ( الويلزية )