Llysieuyn ymgripiol o deulu'r cicaionau neu'r gowrdiau (Cucurbitaceae) yw ciwcymbr, ciwcymer, cucumer,[1] neu yn hynafaidd chwerwddwr[2] neu chwerfell[3] (Cucumis sativus). Fe'i dyfir ar draws y byd am ei ffrwyth hirgul, gwyrdd a noddlyd.
Planhigyn unflwydd ydyw a chanddo goesyn ymlusgol a suddlon. Mae ganddo ddail blewog â thri neu bum pigyn, a thendriliau a ymganghennir o'r coesyn i'w gynnal. Tyfir blodau melyn â phum petal arno, ac mae'r rhain yn unrhywiol ac yn cynhyrchu had a elwir pepo.[4]
Mae'r ciwcymbr yn gynhenid i Dde Asia, yn ardal yr Himalaya. Lledodd i'r Dwyrain Canol ac Affrica yn oes yr henfyd, a sonir amdano sawl gwaith yn y Beibl. Tyfir yn gnwd mewn gwledydd twym. Mae nifer o bobl yn tyfu ciwcymbrau yn yr ardd, ar ffrâm neu ddelltwaith neu yn y tŷ gwydr mewn hinsawdd oer. Gall y ffrwyth droi'n chwerw os na chaiff ei ddyfrio'n gyson, ac mae'r planhigyn yn dueddol i gael clefydau bacteria a ffwng megis llwydni blewog, anthracnos, a Fusarium oxysporum.[4]
Bwytir ciwcymbr ers 3000 o flynyddoedd. Dim ond ychydig o werth maeth sydd gan y ciwcymbr, ond mae'n gynhwysyn poblogaidd mewn saladau, sawsiau relish, a brechdanau. Gan ei fod yn cynnwys rhyw 90% dŵr, mae ganddynt flas ffres, oer ac ysgafn, a bwyteir bron bob amser yn amrwd. Fel rheol fe'i dorrir yn defyll, neu'n ffyn, megis moron. Caiff ciwcymbrau bychain eu piclo.
Cred rhai bod gan y ciwcymbr gynhwysyn arbennig sy'n helpu lleihau'r chwydd o gwmpas y llygaid, neu fagiau dan y llygaid. Felly, dyma pam mae'r fenyw sy'n cael triniaeth wyneb yn aml yn dodi tefyll o giwcymbr dros ei llygaid. Ni ellir dadlau â'r canlyniad, ond mae'r honiad yn anghywir: dŵr yw'r unig gynhwysyn arbennig, a'r lleithder hyn sy'n oeri'r croen ac yn lleihau'r chwydd. Mae ambell cynnyrch cosmetig yn cynnwys echdynion ciwcymbr, a mewn crynodiad uchel gallai wella hydradiad y croen.
Llysieuyn ymgripiol o deulu'r cicaionau neu'r gowrdiau (Cucurbitaceae) yw ciwcymbr, ciwcymer, cucumer, neu yn hynafaidd chwerwddwr neu chwerfell (Cucumis sativus). Fe'i dyfir ar draws y byd am ei ffrwyth hirgul, gwyrdd a noddlyd.
Planhigyn unflwydd ydyw a chanddo goesyn ymlusgol a suddlon. Mae ganddo ddail blewog â thri neu bum pigyn, a thendriliau a ymganghennir o'r coesyn i'w gynnal. Tyfir blodau melyn â phum petal arno, ac mae'r rhain yn unrhywiol ac yn cynhyrchu had a elwir pepo.
Mae'r ciwcymbr yn gynhenid i Dde Asia, yn ardal yr Himalaya. Lledodd i'r Dwyrain Canol ac Affrica yn oes yr henfyd, a sonir amdano sawl gwaith yn y Beibl. Tyfir yn gnwd mewn gwledydd twym. Mae nifer o bobl yn tyfu ciwcymbrau yn yr ardd, ar ffrâm neu ddelltwaith neu yn y tŷ gwydr mewn hinsawdd oer. Gall y ffrwyth droi'n chwerw os na chaiff ei ddyfrio'n gyson, ac mae'r planhigyn yn dueddol i gael clefydau bacteria a ffwng megis llwydni blewog, anthracnos, a Fusarium oxysporum.