Grŵp o bethau byw sy'n perthyn i'r deyrnas Fungi yw ffyngau. Fe'u dosbarthwyd fel planhigion yn wreiddiol ond maent yn perthyn yn agosach i anifeiliaid. Mae mwy na 70,000 o rywogaethau o ffwng.
Mae llawer o ffyngau'n bwydo ar organebau marw. Parasitiaid sy'n bwydo ar organebau byw yw rhywogaethau eraill. Mae rhai ffyngau yn byw gydag algâu mewn perthynas symbiotig, yn ffurfio cennau.
Mae'r ffyngau mwyaf adnabyddus yn cynhyrchu madarch neu gaws llyffant.
Mae ffyngau o bwysigrwydd economaidd yn cynnwys burum a ddefnyddir i wneud cwrw a bara a rhai rhywogaethau o lwydni a ddefnyddir i wneud caws.
Mewn ffyngau mawr mae'r cytoplasm yn aml yn amlgnewyllol..[1]
Mae ffyngau'n achosi llawer o glefydau difrifol mewn anifeiliaid a phobl. Gall ffyngau asbergilws achosi necrosis yr ysgyfaint (ysgyfaint ffermwr), y system nerfol, ac organau eraill. Gall y ffyngau hyn hefyd gynhyrchu cynhyrchion gwenwynig mewn cydrannau bwydydd, gan achosi mycowenwyniad yn yr anifail sy'n bwyta’r bwyd hwn. Gall y ffwng tebyg i furum, Candida albicans, (llindag) achosi haint a llid y gwddf a'r wain. Mae ffyngau dermatoffytig yn effeithio ar groen anifeiliaid a bodau dynol (e.e. tarwden y traed). Mae ffyngau a gludir mewn llwch, megis Coccidioides immitis a Histoplasma capsulatum, yn achosi clefyd yr ysgyfaint neu glefyd cyffredinol mewn anifeiliaid a bodau dynol.[1]
Mae cyffuriau amlyncadwy a/neu gymwysiadau argroenol (hufenau a geliau) yn bodoli er mwyn trin y rhan fwyaf o glefydau ffwngaidd.[1]
|accessdate=
(help)
Grŵp o bethau byw sy'n perthyn i'r deyrnas Fungi yw ffyngau. Fe'u dosbarthwyd fel planhigion yn wreiddiol ond maent yn perthyn yn agosach i anifeiliaid. Mae mwy na 70,000 o rywogaethau o ffwng.
Mae llawer o ffyngau'n bwydo ar organebau marw. Parasitiaid sy'n bwydo ar organebau byw yw rhywogaethau eraill. Mae rhai ffyngau yn byw gydag algâu mewn perthynas symbiotig, yn ffurfio cennau.
Mycena inclinata yn Enfield, LloegrMae'r ffyngau mwyaf adnabyddus yn cynhyrchu madarch neu gaws llyffant.
Mae ffyngau o bwysigrwydd economaidd yn cynnwys burum a ddefnyddir i wneud cwrw a bara a rhai rhywogaethau o lwydni a ddefnyddir i wneud caws.