dcsimg

Gïach bach ( Galês )

fornecido por wikipedia CY

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gïach bach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gïachod bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Lymnocryptes minimus; yr enw Saesneg arno yw Jack snipe. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn L. minimus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop ac Affrica.

Teulu

Mae'r gïach bach yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd Cyffylog Scolopax rusticola Gïach Cyffredin Gallinago gallinago
Gallinago gallinago a1.JPG
Pibydd y Dorlan Actitis hypoleucos
Actitis hypoleucos - Laem Pak Bia.jpg
Rhostog gynffonddu Limosa limosa
Black-tailed Godwit cropped.jpg
Rhostog gynffonfraith Limosa lapponica
Bar-tailed Godwit.jpg
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Adnabod

Hawdd adnabod y gïach bach tra'n bwydo allan. Tua 2/3 maint gïach.[clarification needed] Roedd y pig tua un hyd a hanner y pen (mae pig gïach cyffredin uwchben dwywaith hyd y pen). Hefyd bydd yn bownsio i fyny ac i lawr ar ei sodlau mewn modd digri. Yr olwg mwyaf arferol yw wrth godi'r aderyn o lan pwll bychan wrth i chi fod ar fin sathru arno.Nodyn:Fact Mae hyn yn wahanol i'r gïach cyffredin sydd fel petai â llai o ffydd yn ei gudd-liw ac yn codi nifer fawr o fedrau i ffwrdd. Mi hedfanith y gïach bach yn eitha syth ac isel gan lanio nid yn rhy bell i ffwrdd - heb alw o gwbl. Mae'r giach yn codi gan alw yn swnllyd wrth igam-ogamu i'r entrychion a glanio yn bell iawn i ffwrdd.[3]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Rhys Jones ym Mwletin Llên Natur rhifyn 70
licença
cc-by-sa-3.0
direitos autorais
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visite a fonte
site do parceiro
wikipedia CY

Gïach bach: Brief Summary ( Galês )

fornecido por wikipedia CY

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gïach bach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gïachod bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Lymnocryptes minimus; yr enw Saesneg arno yw Jack snipe. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn L. minimus, sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop ac Affrica.

licença
cc-by-sa-3.0
direitos autorais
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visite a fonte
site do parceiro
wikipedia CY