Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gweirlöyn y ddôl, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gweirloynnod y ddôl; yr enw Saesneg yw Meadow Brown, a'r enw gwyddonol yw Maniola jurtina.[1]
Mae i'w weld yn hemisffer y gogledd. Mae'r gwryw yn llai lliwgar na'r fenyw, a'r smotiau hefyd yn llai o ran maint a cheir tua 12 islaw pob adenydd.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloÿnnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae gweirlöyn y ddôl yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd gloÿnnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweiriau yw ei fwyd: Poa trivialis, Poa pratensis, peiswellt (Festuca spp.), maeswellt (Agrostis spp.), Dactylis glomerata, Brachypodium sylvaticum a cheirchwellt blewog (Helictotrichon pubescens).
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gweirlöyn y ddôl, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gweirloynnod y ddôl; yr enw Saesneg yw Meadow Brown, a'r enw gwyddonol yw Maniola jurtina.
Mae i'w weld yn hemisffer y gogledd. Mae'r gwryw yn llai lliwgar na'r fenyw, a'r smotiau hefyd yn llai o ran maint a cheir tua 12 islaw pob adenydd.
Gwryw
Benyw