Rhywogaeth o'r morgi requiem yw'r morgi rhesog (Galeocerdo cuvier[1]) a'r unig aelod o'r genws Galeocerdo. Mae'n facroysglyfaethwr, ac yn gallu tyfu i dros 5 metr (16 ft 5 in) o hyd.[2] Maent i'w canfod mewn nifer o ddyfroedd trofannol ac mewn hinsoddau tymherus, yn arbennig o gwmpas ynysoedd canol y Cefnfor Tawel. Mae ei enw yn cyfeirio at y rhesi tywyll ar ei gorff, sy'n pylu wrth i'r morgi aeddfedu.[3]
Mae'r morgi rhesog yn hela ar ei ben ei hun ac yn ystod y nos yn bennaf. Mae'n cael ei adnabod am fod â'r ystod ehangaf o fwyd o'r holl forgwn, gydag ysglyfaeth yn cynnwys creaduriaid cramennog, pysgod, morloi, adar, môr-lewys, crwbanod y môr, nadroedd y môr, dolffiniaid, a hyd yn oed morgwn llai eu maint. Mae ganddo hefyd enw fel "bwytwr ysbwriel", yn llyncu amrywiaeth o wrthrychau anfwytadwy a wnaed gan bobl sy'n aros yn ei ystumog. Er eu bod yn ben ysglyfaethwyr, mae morgwn rhesog weithiau yn cael eu cipio gan leiddiaid.[3][4] Mae'n cael ei ystyried yn rhywogaeth mewn perygl o ganlyniad i hela a physgota gan bobl.[5]
Mae'r morgi rhesog yn ail yn unig i'r morgi mawr gwyn am y nifer o ymosodiadau marwol ar bobl.[6]
Rhywogaeth o'r morgi requiem yw'r morgi rhesog (Galeocerdo cuvier) a'r unig aelod o'r genws Galeocerdo. Mae'n facroysglyfaethwr, ac yn gallu tyfu i dros 5 metr (16 ft 5 in) o hyd. Maent i'w canfod mewn nifer o ddyfroedd trofannol ac mewn hinsoddau tymherus, yn arbennig o gwmpas ynysoedd canol y Cefnfor Tawel. Mae ei enw yn cyfeirio at y rhesi tywyll ar ei gorff, sy'n pylu wrth i'r morgi aeddfedu.
Morgi rhesog ifanc yn y Bahamas.Mae'r morgi rhesog yn hela ar ei ben ei hun ac yn ystod y nos yn bennaf. Mae'n cael ei adnabod am fod â'r ystod ehangaf o fwyd o'r holl forgwn, gydag ysglyfaeth yn cynnwys creaduriaid cramennog, pysgod, morloi, adar, môr-lewys, crwbanod y môr, nadroedd y môr, dolffiniaid, a hyd yn oed morgwn llai eu maint. Mae ganddo hefyd enw fel "bwytwr ysbwriel", yn llyncu amrywiaeth o wrthrychau anfwytadwy a wnaed gan bobl sy'n aros yn ei ystumog. Er eu bod yn ben ysglyfaethwyr, mae morgwn rhesog weithiau yn cael eu cipio gan leiddiaid. Mae'n cael ei ystyried yn rhywogaeth mewn perygl o ganlyniad i hela a physgota gan bobl.
Mae'r morgi rhesog yn ail yn unig i'r morgi mawr gwyn am y nifer o ymosodiadau marwol ar bobl.