Aderyn a rhywogaeth o adar yw Brych coed (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: brychion coed) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdus viscivorus; yr enw Saesneg arno yw Mistle thrush. Mae'n perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. viscivorus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Mae Brych y Coed yn edrych yn debyg iawn i'r Fronfraith ar yr olwg gyntaf, ond mae yn aderyn mwy na'r Fronfraith ac yn edrych yn fwy llwyd ar y pen a'r cefn a llai o liw browngoch ar y fron. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae adar sy'n nythu yn y gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf. Yn y gaeaf maent weithiau yn dod at ei gilydd yn heidiau ond anaml y gwelir mwy na rhyw 30 gyda'i gilydd. Maent yn nythu mewn coed fel rheol.
Pryfed ac aeron yw eu prif fwyd. Yn y gaeaf maent yn aml yn amddiffyn coeden sy'n llawn o aeron, gan ymlid unrhyw aderyn arall sy'n ceisio eu bwyta. Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru er ei fod yn llai adnabyddus na'r Fronfraith.
Mae'r brych coed yn perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth enw tacson delwedd Brych crafog Psophocichla litsitsirupa Brych chwibanol Formosa Myophonus insularis Brych chwibanol glas Myophonus caeruleus Brych chwibanol gloyw Myophonus melanurus Brych chwibanol Malaya Myophonus robinsoni Brych chwibanol Sri Lanka Myophonus blighi Brych chwibanol Swnda Myophonus glaucinus Brych daear Awstralia Zoothera lunulata Brych daear Siberia Geokichla sibirica Brych daear Swnda Zoothera andromedae Brych hirbig bach Zoothera marginata Geokichla cinerea Geokichla cinereaAderyn a rhywogaeth o adar yw Brych coed (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: brychion coed) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdus viscivorus; yr enw Saesneg arno yw Mistle thrush. Mae'n perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. viscivorus, sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.