Planhigyn gyda blodau mawr addurnol yw alaw (neu lili).
Nymphaea alba alaw (enw benywaidd), Lili Ddŵr Wen, Alaw, Ala y Dŵr, Alaw y Llyn, Bwltis, Godywydd, Lili-ddŵr Wen, Lili Gwyn y Dŵr, Magwyr Wen, Nymphaea alba, white water-lily[1]
Nuphar lutea lili'r-dŵr felen (enw benywaidd), Lili Ddŵr Felen, Bwltis, Lili Melyn y Dŵr, Bwltys, Godowydd, Lili Felen y Dŵr, Lili Melyn y Dŵr, Melyn y Dŵr, Mwltws, Myltys, yellow water-lily.[1]
Dyma'r lili yr ysgrifennodd y bardd T. H. Parry-Williams amdani ar Lyn y Gadair. (Gweler erthygl Nuphar lutea am y stori hon yn llawn):
“Alaw” oedd enw gwreiddiol y lili ddŵr wen, a dyna welodd Parry-Williams "yn ddiog ddiysbryd yng nghwr y llyn - a'r petalau er hynny yn syndod o wyn". Roedd yr alaw yn fodel o wynder yn Llyfr Gwyn y 13eg ganrif hefyd - "Gwynnach oedd na'r alaw". Wn i ddim beth wnaeth y lili i haeddu'r fath ensyniadau difrïol gan y Bardd o Ryd Ddu: "coesau yn sownd mewn llysnafedd llaes"...a blodau "lleicion, gludiog, di-sawr yn pendympian ar wyneb y dyfnjiwn mawr..." Onid alarch y blodau yw hi i bawb arall? O leiaf gall neb ei gyhuddo o fod yn sentimental nac yn ystrydebol.[2]
'Yn Rhifyn 27 cyfeiriwyd at y lilïau gwynion y soniodd TH Parry Williams amdanynt yn ei gerdd i’r planhigyn hwn. Awgrymwyd fod y gerdd yn ddigon manwl i roi Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans i leoliad y lili yng nghyfnod y bardd, ac o’r disgrifiad “wrth droed Y Garn” cynigiais SH567522. Cynigwyd hefyd y gallai’r lilïau fod yno yn yr un fan o hyd. Dyma Jeremy Williams yn derbyn yr her, ac fe ymwelodd â’r llecyn ar 1 Awst 2010. Dyma yr ysgrifennodd i’r Bwletin:
Y lili ddŵr felen oedd y rhywogaeth a welodd JC ar y llun yn ôl y llun a dynnodd.[3] Ymddengys bod THP-W wedi newid y rhywogaeth yn ei gerdd (am resymau barddonol) o felyn i wyn - neu, mai'r un wen oedd ar y llyn yn ei amser ef. Un posibiliad arall wrth gwrs yw na chymerodd y bardd unrhyw sylw o gwbl o beth oedd yn tyfu ar y llyn, ac mai ffrwyth ei ddychymyg oedd y cyfan!