Grŵp o adar ydy'r Rhedwyr a elwir hefyd yn 'deulu' (enw gwyddonol neu Ladin: Burhinidae; Saesneg: stone-curlews).[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Charadriiformes.[2][3]
Ceir naw rhywogaeth oddi fewn i deulu'r Rhedwyr (neu Burhinidae), ac maent i'w canfod ar hyd a lled ardaloedd trfofannol a chynnes, gyda dwy rywogaeth yn Awstralia. Er y caiff y teulu ei adnabod fel 'rhydwyr' (waders), cynefinoedd sych neu led-sych yw eu dewis, fel arfer.
O ran maint, maen nhw'n ganolig - mawr, gyda phigau cryf melyn-du neu ddu a llygaid mawr melyn, a wna iddynt edrych yn debyg i ymlusgiad.
Rhestr Wicidata:
teulu enw tacson delwedd Rhedwr Awstralia Burhinus grallarius Rhedwr brych Burhinus capensis Rhedwr mawr y moelydd Esacus recurvirostris Rhedwr rhesog Burhinus bistriatus Rhedwr Senegal Burhinus senegalensis Rhedwr y dŵr Burhinus vermiculatus Rhedwr y moelydd Burhinus oedicnemus Rhedwr y traeth Esacus magnirostris Rhedwr yr Andes Burhinus superciliaris