Aderyn a rhywogaeth o adar yw Môr-wennol gyffredin (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: môr-wenoliaid cyffredin) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Sterna hirundo; yr enw Saesneg arno yw Common tern. Mae'n perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn S. hirundo, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia. Ar ôl nythu mae'n symud tua'r de i aeafu.
Gwyn yw'r rhan fwyaf o'r plu, gyda llwyd ar y cefn ac ar ran uchaf yr adenydd. Mae'r pig yn goch gydag arlliw oren, a darn tywyll ar y blaen, yn wahanol i Forwennol y Gogledd sydd â phig goch dywyll. Mae gan Forwennol y Gogledd gynffon hirach a choesau byrrach hefyd. Mae'r Forwennol Gyffredin rhwng 34 a 37 cm o hyd a 70–80 cm ar draws yr adenydd. Yn yr haf mae cap du ar y pen, ond yn y gaeaf mae'r talcen yn troi'n wyn.
Fe'i gwelir ar arfordir Cymru hefyd.
Mae'r môr-wennol gyffredin yn perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth enw tacson delwedd Corswennol Inca Larosterna inca Gwylan fechan Hydrocoloeus minutus Gwylan ifori Pagophila eburnea Gwylan Ross Rhodostethia rosea Gwylan Sabine Xema sabini Gwylan y Galapagos Creagrus furcatus Môr-wennol bigfawr Phaetusa simplex Môr-wennol gawraidd Hydroprogne caspia Môr-wennol ylfinbraff Gelochelidon niloticaAderyn a rhywogaeth o adar yw Môr-wennol gyffredin (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: môr-wenoliaid cyffredin) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Sterna hirundo; yr enw Saesneg arno yw Common tern. Mae'n perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae) sydd yn urdd y Charadriiformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn S. hirundo, sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia. Ar ôl nythu mae'n symud tua'r de i aeafu.