Aderyn a rhywogaeth o adar yw Titw cynffonhir (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: titwod cynffonhir) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Aegithalos caudatus; yr enw Saesneg arno yw Long-tailed tit. Mae'n perthyn i deulu'r Titwod cynffonhir (Lladin: Aegithalidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. caudatus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop ac Asia. Fel rheol mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf, ond yng ngorllewin Ewrop mae'n aros trwy'r flwyddyn. Gellir ei adnabod yn hawdd, yn enwedig o'r gynffon hir - mae'r aderyn tua 13–15 cm o hyd ond mae'r gynffon yn 7–9 cm o hyd a'r corff dim ond tua 6 cm. Mae'n ddu a brown ar y cefn, coch neu binc ar yr ochrau a gwyn ar y bol, gyda cap gwyn ar y pen. Mae'r is-rywogaeth yng ngogledd Ewrop, (A. c. caudatus), ychydig yn wahanol, gyda'r pen yn wyn i gyd a'r ochrau'n wyn.
Fel rheol gellir ei weld mewn heidiau o rhyw 6 i 15 aderyn, weithiau fwy, yn symud yn ddi-baid o un goeden i'r llall. Adeiledir y nyth mewn coeden neu lwyd gan ddefnyddio gwe pryf copyn i ddal y nyth at ei gilydd. Mae'n dodwy rhwng 6 a 12 wy.
Mae'r Titw Cynffon-hir yn aderyn cyffredin yng Nghymru. Gall ei niferoedd ddisgyn yn sylweddol os ceir gaeaf anarferol o galed, ond buan yr adferir ei nifer.
Mae'r titw cynffonhir yn perthyn i deulu'r Titwod cynffonhir (Lladin: Aegithalidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth enw tacson delwedd Corditw Psaltria exilis Titw bochwyn Aegithalos leucogenys Titw cynffonhir Aegithalos caudatus Titw cynffonhir Blyth Aegithalos iouschistos Titw cynffonhir du Aegithalos fuliginosus Titw pengoch Aegithalos concinnus Titw’r prysgwydd Psaltriparus minimusYswigw gynffon-hir; yswigw hirgwt; lleian gynffon-hir; gwas y dryw [gweler blue tit]; yswelw; pela gynffon-hir; yswidw hir ei gwt; y penloyn gynffonig; glas gynffon hir; yswedw; pwd; yswidw'r botel*; shibigw; sigl-di-gwt [gweler siglen fraith]; aderyn reis pwdin; Aegithalos caudatus; Long-tailed Tit[3]
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Titw cynffonhir (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: titwod cynffonhir) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Aegithalos caudatus; yr enw Saesneg arno yw Long-tailed tit. Mae'n perthyn i deulu'r Titwod cynffonhir (Lladin: Aegithalidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. caudatus, sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.