Aderyn a rhywogaeth o adar yw Dringwr bach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: dringwyr bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Certhia familiaris; yr enw Saesneg arno yw Common treecreeper. Mae'n perthyn i deulu'r Dringwyr coed (Lladin: Certhiidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. familiaris, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia, ac mae naw is-rywogaeth i gyd.
Nid yw'r Dringwr Bach yn aderyn mudol. Mae'n aderyn cyffredin mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a thir agored. Ei brif fwyd yw pryfed, a'i ddull arferol o fwydo yw hedfan i waelod coeden ac yna ei dringo, cyn hedfan i waelod coeden arall i ail-ddechrau. Mae'n aderyn gweddol fychan, 12.5 cm o hyd.
Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru, er nad yw'n adnabyddus iawn i'r mwyafrif, ac mae'n ymddangos fod ei niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Mae'r dringwr bach yn perthyn i deulu'r Dringwyr coed (Lladin: Certhiidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth enw tacson delwedd Gwybed-ddaliwr Califfornia Polioptila californica Gwybed-ddaliwr Ciwba Polioptila lembeyei Gwybed-ddaliwr cynffonddu Polioptila melanura Gwybed-ddaliwr Guyana Polioptila guianensis Gwybed-ddaliwr gyddflwyd Polioptila schistaceigula Gwybed-ddaliwr llwyd Polioptila plumbea Gwybed-ddaliwr llwydlas Polioptila caerulea Gwybed-ddaliwr llygadfoel Polioptila albiloris Gwybed-ddaliwr mygydog Polioptila dumicola Gwybed-ddaliwr penddu Polioptila nigriceps Gwybed-ddaliwr torwyn Polioptila lactea Gwybed-ddryw bochgoch Microbates cinereiventris Gwybed-ddryw torchog Microbates collarisAderyn a rhywogaeth o adar yw Dringwr bach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: dringwyr bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Certhia familiaris; yr enw Saesneg arno yw Common treecreeper. Mae'n perthyn i deulu'r Dringwyr coed (Lladin: Certhiidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. familiaris, sef enw'r rhywogaeth.