Adar dŵr mawr o deulu'r Gaviidae yw trochyddion. Fe'u ceir yn Hemisffer y Gogledd yng Ngogledd America ac Ewrasia. Fel rheol, maent yn nythu ar lynnoedd dŵr croyw ac yn gaeafu mewn dyfroedd arfordirol. Maent yn nofwyr a deifwyr ardderchog ond ni allant gerdded yn dda. Maent yn bwydo ar bysgod yn bennaf.