dcsimg

Llwydfelyn ( kymri )

tarjonnut wikipedia CY

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw llwydfelyn; yr enw lluosog ydy llwydfelynion; yr enw Saesneg yw Clouded Yellow, a'r enw gwyddonol yw Colias croceus.[1][2]

 src=
Rhan uchaf adain y gwryw
 src=
Math helice, benywaidd
 src=
O dan yr adain.
Sar Pass (c.10,500 tr.) yn Ardal Kullu, Himachal Pradesh (India).

Tiriogaeth

Eu tiriogaeth yw de Ewrop hyd at Twrci a'r Dwyrain Canol. Yn yr haf yn unig mae nhw'n ymfudo i Ewrop. Yng ngwledydd Prydain fe'u canfyddir ar arfordir deheuol Lloegr bron yn flynyddol ac yn achlysurol mewn mannau eraill. Mae nhw wedi'u gweld hefyd mor ogleddol â Dumfries yn Galloway yn yr Alban.

Ceir miloedd ohonynt ar adegau'n ymfudo gyda'i gilydd a gelwir y blynyddoedd hyn yn "flynyddoedd y cymylau melyn": 1877, 1947, 1983, 1992, 1994, 1996 a 2000.

Bwyd

Eu prif fwyd ydy is-deulu'r Faboideae e.e. meillion (Trifolium) ac Alfalfa (Medicago sativa) ac ar adegau Lotus corniculatus.

Y cylch bywyd

Yn ne Ewrop a gogledd Affrica mae nhw'n bridio drwy'r flwyddyn. Mae'r wyau'n cael eu dodwy ar y dail y byddant yn eu fwyta. Fe'u dodwyir yn unigol ar y dail. yn aml mae nhw'n troi'n chwiler o fewn tua mis; ar ôl tua tair wythnos mae nhw'n deor. Ceir tair cenhedlaeth ar adegau ac fe welir yr oedolyn ar ei adain hyd at gychwyn Tachwedd.

Cyffredinol

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: gloynnod byw a gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r llwydfelyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
lisenssi
cc-by-sa-3.0
tekijänoikeus
Awduron a golygyddion Wikipedia
alkuperäinen
käy lähteessä
kumppanisivusto
wikipedia CY

Llwydfelyn: Brief Summary ( kymri )

tarjonnut wikipedia CY

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw llwydfelyn; yr enw lluosog ydy llwydfelynion; yr enw Saesneg yw Clouded Yellow, a'r enw gwyddonol yw Colias croceus.

 src= Rhan uchaf adain y gwryw  src= Math helice, benywaidd  src= O dan yr adain.
Sar Pass (c.10,500 tr.) yn Ardal Kullu, Himachal Pradesh (India).
lisenssi
cc-by-sa-3.0
tekijänoikeus
Awduron a golygyddion Wikipedia
alkuperäinen
käy lähteessä
kumppanisivusto
wikipedia CY