Glöyn byw sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell wen, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll gwyn (-ion); yr enw Saesneg yw White Admiral, a'r enw gwyddonol yw Limenitis camilla.[1][2] Mae ei diriogaeth yn rhychwantu coediroedd de Lloegr a Chernyw, y rhan fwyaf o Ewrop ac Asia, gan ymestyn i'r dwyrain mor bell â Japan.
Lled yr adenydd ar eu heithaf ydy 60–65 mm ac maen't yn hedfan yn hynod o osgeiddig, gyda chyfnod byr o guro adenydd yn chwim, ac yna gleidio tawel, urddasol.
Blodau'r fiaren a chawod fêl (honeydew) ydy prif faeth yr oedolyn. Mae'r fenyw yn dodwy ei hwyau'n unigol ar laeth y gaseg a hynny mewn coetiroedd dwys.
Gwyrdd ydy prif liw'r siani flewog, gyda blewiach browngoch arni sy'n ei galluogi i guddio ar ddail. Ar ddechrau'r hydref mae'n creu ffurf tebyg i babell allan o feinwe'r ddeilen ac yna'n ei gysylltu i fonyn y planhigyn gyda sidan o'i chorff cyn gaeafgysgu ynddo.
Wrth i haul y gwanwyn gynhesu, mae'n deffro ac yn cael cyfnod byr o fwyta. Yna, mae'n bwrw'i chroen a gwelir croen newydd gwyrdd arni. Pan ddaw'r haf mae'n troi'n chwiler o liw gwyrdd ac aur ac o fewn pythefnos, daw'r oedolyn i'r golwg.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell wen yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Glöyn byw sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell wen, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll gwyn (-ion); yr enw Saesneg yw White Admiral, a'r enw gwyddonol yw Limenitis camilla. Mae ei diriogaeth yn rhychwantu coediroedd de Lloegr a Chernyw, y rhan fwyaf o Ewrop ac Asia, gan ymestyn i'r dwyrain mor bell â Japan.
Lled yr adenydd ar eu heithaf ydy 60–65 mm ac maen't yn hedfan yn hynod o osgeiddig, gyda chyfnod byr o guro adenydd yn chwim, ac yna gleidio tawel, urddasol.