Mae Aderyn y To yn gyffredin yn Ewrop a rhan o Asia, ac mae hefyd wedi ei gyflwyno i lawer o wledydd a chyfandiroedd eraill, er enghraifft America ac Awstralia.
Yn aml iawn mae perthynas glos rhwng Aderyn y To ac anheddau dynol, ac mae'n medru bod yn brin lle mae'r boblogaeth ddynol yn denau. Yn ddiweddar tynnwyd sylw at y ffaith fod niferoedd yr aderyn yma wedi cwympo mewn rhai rhannau o Ewrop, yn enwedig yn nhrefi Lloegr, lle mae Aderyn y To bron wedi diflannu o Lundain. Yng Nghymru ar y llaw arall mae ei niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.
Dywedir i'r nyth aderyn-to hwn fod o fewn ffram ffenestr (sash window) ers 1896 (y flwyddyn godwyd y tŷ) yn Llanfaglan. Preswylydd y tŷ Frank Jones dynnodd sylw rhaglen Galwad Cynnar (Radio Cymru) iddo.
Cymerodd Kelvin Jones (swyddog Cymru y BTO) y nyth i’w dadansoddi gan arbenigwyr. Tybed pa weiriau oedd ar gael i adar-to yn 1896? Diolch i waith arloesol prifysgolion Cymru, mae DNA holl blanhigion Cymru bellach wedi ei gofnodi gan yr Ardd Genedlaethol, ac fe anfonwyd y nyth iddynt gan obeithio adnabod pob gwelltyn ynddo (mae Prosiect Llên Natur yn aros y canlyniadau o hyd).
Cyn anfon y nyth cafodd y ddau fotanegydd, Nigel Brown a Trefor Dines, gyfle i edrych yn fanwl ar y nyth. Mi oedd TD yn gobeithio buasai rhywfaint o gen neu ffwng wedi sychu arno ond ni fu. Cytunodd y ddau ar y rhestr yma:
Meddai TD, “fysai'r rhain yn rhan o hen borfeydd ac yn gyffredin iawn yn yr amser cafodd y nyth ei godi. Mae yna lawer o hadau yn waelod y box a sawl math o wreiddiau.[1]