Gwas y neidr mawr o deulu'r Aeshnidae yw'r gwas neidr glas (Aeshna juncea). Fe'i ceir yn Ewrasia a Gogledd America. Ym Mhrydain, mae'n fwyaf cyffredin mewn rhanbarthau gogleddol a gorllewinol.[1]
Mae'n 75 mm o hyd ac mae'r adain blaen yn mesur 40–50 mm.[2] Mae gan y gwryw linellau melyn, cul ar y thoracs. Ceir smotiau glas a melyn ar abdomen y gwryw a smotiau melyn, gwyrdd neu weithiau glas ar abdomen y fenyw.[1]
Gwas y neidr mawr o deulu'r Aeshnidae yw'r gwas neidr glas (Aeshna juncea). Fe'i ceir yn Ewrasia a Gogledd America. Ym Mhrydain, mae'n fwyaf cyffredin mewn rhanbarthau gogleddol a gorllewinol.
Mae'n 75 mm o hyd ac mae'r adain blaen yn mesur 40–50 mm. Mae gan y gwryw linellau melyn, cul ar y thoracs. Ceir smotiau glas a melyn ar abdomen y gwryw a smotiau melyn, gwyrdd neu weithiau glas ar abdomen y fenyw.