Aderyn a gysylltir â glan y môr yw gwylan ['gʊɨ̯lan] (lluosog gwylanod neu weithiau 'gwylain'); gair sydd o darddiad Brythonig.
Mae'r wylan yn bwyta pysgod wrth gwrs, ond mae hefyd yn bwyta pob math o gig, wyau adar eraill, hadau a llysiau a hefyd anifeiliaid wedi marw a phob math o fudreddi.[1][2] Mae'n lladd a bwyta crancod trwy hedfan yn uchel a'u gollwng ar y creigiau fel bod y crancod yn torri'n ddarnau. Yng Nghymru yr ydym yn eu gweld yn dilyn aradr, hyd yn oed filltiroedd i mewn i'r tir mawr, yn casglu mwydon a chynrhon wrth iddynt ddod i'r wyneb. Bydd yr wylan yn bwydo ei rhai bach drwy godi cil.[1]
Ymhlith y gwahanol fathau o wylanod mae Gwylan Benddu, Gwylan y Penwaig, Gwylan Gefnddu Fwyaf, Gwylan Gefnddu Leiaf, Gwylan y Gweunydd a Gwylan Goesddu.
Ceir drama enwog gan Anton Chekhov o'r enw 'Yr Wylan'. Sgwennodd Dafydd ap Gwilym flynyddoedd ynghynt gywydd enwog iddi ('Darn o haul, dyrnfol heli...') ac englyn iddi:
Yr Wylan
Fe'i defnyddir hefyd i ragddweud y tywydd; dyma hen bennill i'r perwyl hynny:
Mae'r gair golau yn dod o'r Frythoneg a gwelir hyn yn y berthynas rhwng y dair iaith:
Daeth y gair Ffrangeg goéland o'r gair Llydaweg gouelan, a benthyciad o'r Gymraeg, mae'n debyg, yw'r Saesneg gull.[3]
Aderyn a gysylltir â glan y môr yw gwylan ['gʊɨ̯lan] (lluosog gwylanod neu weithiau 'gwylain'); gair sydd o darddiad Brythonig.
Mae'r wylan yn bwyta pysgod wrth gwrs, ond mae hefyd yn bwyta pob math o gig, wyau adar eraill, hadau a llysiau a hefyd anifeiliaid wedi marw a phob math o fudreddi. Mae'n lladd a bwyta crancod trwy hedfan yn uchel a'u gollwng ar y creigiau fel bod y crancod yn torri'n ddarnau. Yng Nghymru yr ydym yn eu gweld yn dilyn aradr, hyd yn oed filltiroedd i mewn i'r tir mawr, yn casglu mwydon a chynrhon wrth iddynt ddod i'r wyneb. Bydd yr wylan yn bwydo ei rhai bach drwy godi cil.
Ymhlith y gwahanol fathau o wylanod mae Gwylan Benddu, Gwylan y Penwaig, Gwylan Gefnddu Fwyaf, Gwylan Gefnddu Leiaf, Gwylan y Gweunydd a Gwylan Goesddu.