dcsimg

Pengam (aderyn) ( Galês )

fornecido por wikipedia CY
Erthygl ar yr aderyn yw hon; ceir erthygl arall ar y pentref o'r un enw.

Rhywogaeth o adar yw'r Pengam (lluosog: Pengeimion) sydd hefyd yn perthyn i genws o'r un enw. Yr enw Lladin ar y rhywogaeth yw Jynx torquilla, ac Jynx yw enw'r genws, sy'n tarddu o'r Hen Roeg iunx, sef y Pengam Ewrasaidd.[1] Ceir rhywogaeth arall o fewn y genws, sef y Pengam gyddfgoch (Jynx ruficollis). Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn J. torquilla, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[3]

Fel y gwir gnocell, mae gan y Pengam ben mawr a thafod hir a ddefnyddir i dynnu'r pryf o'r pren, yn fwyd. Mae ganddo hefyd ddau fawd troed, sy'n wynebu ymlaen a dau tuag yn ôl. Ond yn wahanol i'r wir gnocell, nid oes ganddo blu caled yn gynffon, plu caled a ddefnyddir gan y gnocell i ddringo coed; oherwydd hyn, fe'i gwelir yn aml yn eistedd ar y gangen yn hytrach nag yn glynnu i fonyn, neu ochr y goeden. Mae ei big hefyd yn fyrach, ac yn llai tebyg i gyllell fain, hir.

Morgrug yw ei brif fwyd, a phryfaid eraill a ganfyddant mewn hen bren pwdwr, neu weithiau ar wyneb y ddaear. Yn aml, maen'r Pengeimion yn canfod hen nythod cnocellau coed i nythu ynddo, yn hytrach na thurio eu hunain i'r pren. Gwyn yw lliw eu wyau.

Teulu

Mae'r Pengam yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd Cnocell benddu Picus erythropygius Cnocell fraith Japan Yungipicus kizuki
Dendrocopos kizuki on tree.JPG
Cnocell gorunfrown Yungipicus moluccensis
Sunda pygmy woodpecker (Dendrocopos moluccensis) - Flickr - Lip Kee.jpg
Cnocell werdd Picus viridis
2014-04-14 Picus viridis, Gosforth Park 1.jpg
Corgnocell Temminck Yungipicus temminckii
Male of Dendrocopos temminckii.JPG
Fflamgefn cyffredin Dinopium javanense
Common Flame-back Woodpecker1.jpg
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Jobling, James A (2010). The Helm Dictionary of Scientific Bird Names. London: Christopher Helm. p. 212. ISBN 978-1-4081-2501-4.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
licença
cc-by-sa-3.0
direitos autorais
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visite a fonte
site do parceiro
wikipedia CY

Pengam (aderyn): Brief Summary ( Galês )

fornecido por wikipedia CY
Erthygl ar yr aderyn yw hon; ceir erthygl arall ar y pentref o'r un enw.

Rhywogaeth o adar yw'r Pengam (lluosog: Pengeimion) sydd hefyd yn perthyn i genws o'r un enw. Yr enw Lladin ar y rhywogaeth yw Jynx torquilla, ac Jynx yw enw'r genws, sy'n tarddu o'r Hen Roeg iunx, sef y Pengam Ewrasaidd. Ceir rhywogaeth arall o fewn y genws, sef y Pengam gyddfgoch (Jynx ruficollis). Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn J. torquilla, sef enw'r rhywogaeth. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.