dcsimg

Aligator ( Galês )

fornecido por wikipedia CY
 src=
Aligator Americanaidd

Mae'r aligator yn grocodeiliad yn y genws Alligator o deulu Alligatoridae. Y ddwy rywogaeth sydd mewn bod yw'r aligator Americanaidd (A. mississippiensis) a'r aligator Tsieineaidd (A. sinensis). Yn ogystal â hynny, gwyddom o astudio olion ffosil bod nifer o rywogaethau o aligatorau bellach wedi diflannu. Ymddangosodd yr aligatorau cyntaf yn ystod y cyfnod Oligosen tua 37 miliwn o flynyddoedd yn ol.[1]

Mae'r enw "aligator" fwy na thebyg yn ffurf o'r enw el lagarto, sy'n golygu 'madfall' yn Sbaeneg ac sydd wedi'i Saesnigeiddio. Dechreuodd y concwistadoriaid ddefnyddio'r enw Sbaeneg a dechreuodd ymfudwyr i Florida ei ynganu a'i sillafu fel 'aligator'.[2] Roedd sillafiadau cynnar yn y Saesneg hefyd yn cynnwys allagarta ac alagarto.[3]

Disgrifiad

Mae aligator Americanaidd maint llawn yn pwyso tua 360 kilogram (790 pwys) a thua 4.0 medr (13.1 troedfedd) o hyd, ond mae nhw'n gallu tyfu i 4.4 medr (14 troedfedd) a phwyso dros 450 kilogram (990 pwys).[4] Roedd y mwyaf sydd ar gofnod yn 5.84 medr (19.2 troedfedd) o hyd.[5] Mae'r aligator Tsieineaidd yn llai, yn anaml dros 2.1 medr (6.9 troedfedd) o hyd. Mae hefyd yn pwyso llai o lawer, gyda gwrywod ddim mwy na 45 kilogram (99 pwys) fel arfer.

Pan fydd aligators wedi tyfu, mae nhw'n ddu neu'n lliw brown olewydd tywydd gyda boliau gwyn, tra bod gan y rhai iau farciau gwyn a melyn trawiadol sy'n pylu dros amser.[6]

Nid yw cyfartaledd oes aligator wedi'i fesur ar gyfartaledd[7] Yn 1937, cafodd Sw Belgrade yn Serbia aligator maint llawn o'r enw Muja. Mae bellach o leiaf 80 mlwydd oed.[8] Nid oes ganddo gofnod dilys o ddyddiad ei eni, ond mae'n cael ei ystyried yn yr aligator hynaf sydd mewn caethiwed.[9]

Rhywogaethau (byw)

Delwedd Enw gwyddonol Enw cyffredin Dosbarthiad AmericanAlligator.JPG Alligator mississippiensis Aligator Americanaidd Texas i Ogledd Carolina, Unol Daleithiau ChineseAlligator.jpg Alligator sinensis Aligator Tsieineaidd dwyrain Tseina.

Ffosiliau

  • Alligator mcgrewi
  • Alligator mefferdi
  • Alligator olseni
  • Alligator prenasalis

Galeri o rywogaethau byw

Gweler hefyd

Cyfeirnodau

  1. Brochu, C.A. (1999). "Phylogenetics, taxonomy, and historical biogeography of Alligatoroidea". Memoir (Society of Vertebrate Paleontology) 6: 9–100. doi:10.2307/3889340.
  2. American Heritage Dictionaries (2007). Spanish Word Histories and Mysteries: English Words That Come From Spanish. Houghton Mifflin Harcourt. pp. 13–15. ISBN 9780618910540.
  3. Morgan, G. S., Richard, F., & Crombie, R. I. (1993). The Cuban crocodile, Crocodylus rhombifer, from late quaternary fossil deposits on Grand Cayman. Caribbean Journal of Science, 29(3-4), 153-164. "Archived copy" (PDF). Archifwyd o y gwreiddiol (PDF) ar 2014-03-29. Cyrchwyd 2014-03-28.CS1 maint: Archived copy as title (link)
  4. "American Alligator and our National Parks". eparks.org. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2016-05-01.
  5. "Alligator mississippiensis". alligatorfur.com. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2016-05-01.
  6. "Crocodilian Species – American Alligator (Alligator mississippiensis)". crocodilian.com.
  7. Kaku, Michio (March 2011). Physics of the Future: How Science Will Shape Human Destiny And Our Daily Lives by the Year 2100. Doubleday. pp. 150, 151. ISBN 978-0-385-53080-4.Check date values in: |date= (help)
  8. "Oldest alligator in the world". b92.net. Cyrchwyd 2012-02-08.
  9. "The oldest alligator living in captivity". shekoos.wordpress.com. 2012-02-22. Cyrchwyd 2013-08-07.
licença
cc-by-sa-3.0
direitos autorais
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visite a fonte
site do parceiro
wikipedia CY

Aligator: Brief Summary ( Galês )

fornecido por wikipedia CY
 src= Aligator Americanaidd

Mae'r aligator yn grocodeiliad yn y genws Alligator o deulu Alligatoridae. Y ddwy rywogaeth sydd mewn bod yw'r aligator Americanaidd (A. mississippiensis) a'r aligator Tsieineaidd (A. sinensis). Yn ogystal â hynny, gwyddom o astudio olion ffosil bod nifer o rywogaethau o aligatorau bellach wedi diflannu. Ymddangosodd yr aligatorau cyntaf yn ystod y cyfnod Oligosen tua 37 miliwn o flynyddoedd yn ol.

Mae'r enw "aligator" fwy na thebyg yn ffurf o'r enw el lagarto, sy'n golygu 'madfall' yn Sbaeneg ac sydd wedi'i Saesnigeiddio. Dechreuodd y concwistadoriaid ddefnyddio'r enw Sbaeneg a dechreuodd ymfudwyr i Florida ei ynganu a'i sillafu fel 'aligator'. Roedd sillafiadau cynnar yn y Saesneg hefyd yn cynnwys allagarta ac alagarto.

licença
cc-by-sa-3.0
direitos autorais
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visite a fonte
site do parceiro
wikipedia CY