dcsimg
Image of <i>Agaricus silvicola</i>

Fungus

Fungi

Ffwng ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Grŵp o bethau byw sy'n perthyn i'r deyrnas Fungi yw ffyngau. Fe'u dosbarthwyd fel planhigion yn wreiddiol ond maent yn perthyn yn agosach i anifeiliaid. Mae mwy na 70,000 o rywogaethau o ffwng.

Mae llawer o ffyngau'n bwydo ar organebau marw. Parasitiaid sy'n bwydo ar organebau byw yw rhywogaethau eraill. Mae rhai ffyngau yn byw gydag algâu mewn perthynas symbiotig, yn ffurfio cennau.

 src=
Mycena inclinata yn Enfield, Lloegr

Mae'r ffyngau mwyaf adnabyddus yn cynhyrchu madarch neu gaws llyffant.

Mae ffyngau o bwysigrwydd economaidd yn cynnwys burum a ddefnyddir i wneud cwrw a bara a rhai rhywogaethau o lwydni a ddefnyddir i wneud caws.

Strwythur

  • Celloedd ewcaryotig: mae genynnau pob ewcaryot wedi'u hamgodio mewn DNA. Mae'r cellfur yn debyg i un planhigyn - wedi'i wneud o ficroffibrolion - ond gall fod wedi'i wneud o amrywiaeth o ddeunyddiau (nid dim ond cellwlos fel mewn planhigion) - citin, cellwlos, glwcanau.
  • Niwclews wedi'i rwymo â philenni a mitocondria (Ewcaryotig).
  • Cellbilen gyda reticwlwm endoplasmig.
  • DNA mewn cromosomau - rhannu'r celloedd fel mewn ewcaryotau.

Mewn ffyngau mawr mae'r cytoplasm yn aml yn amlgnewyllol..[1]

Clefydau

Mae ffyngau'n achosi llawer o glefydau difrifol mewn anifeiliaid a phobl. Gall ffyngau asbergilws achosi necrosis yr ysgyfaint (ysgyfaint ffermwr), y system nerfol, ac organau eraill. Gall y ffyngau hyn hefyd gynhyrchu cynhyrchion gwenwynig mewn cydrannau bwydydd, gan achosi mycowenwyniad yn yr anifail sy'n bwyta’r bwyd hwn. Gall y ffwng tebyg i furum, Candida albicans, (llindag) achosi haint a llid y gwddf a'r wain. Mae ffyngau dermatoffytig yn effeithio ar groen anifeiliaid a bodau dynol (e.e. tarwden y traed). Mae ffyngau a gludir mewn llwch, megis Coccidioides immitis a Histoplasma capsulatum, yn achosi clefyd yr ysgyfaint neu glefyd cyffredinol mewn anifeiliaid a bodau dynol.[1]

Triniaeth

Mae cyffuriau amlyncadwy a/neu gymwysiadau argroenol (hufenau a geliau) yn bodoli er mwyn trin y rhan fwyaf o glefydau ffwngaidd.[1]

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Ffwng: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Grŵp o bethau byw sy'n perthyn i'r deyrnas Fungi yw ffyngau. Fe'u dosbarthwyd fel planhigion yn wreiddiol ond maent yn perthyn yn agosach i anifeiliaid. Mae mwy na 70,000 o rywogaethau o ffwng.

Mae llawer o ffyngau'n bwydo ar organebau marw. Parasitiaid sy'n bwydo ar organebau byw yw rhywogaethau eraill. Mae rhai ffyngau yn byw gydag algâu mewn perthynas symbiotig, yn ffurfio cennau.

 src= Mycena inclinata yn Enfield, Lloegr