Isdeulu'r Hominidae yw Homininae, sy'n cynnwys y llwythi Hominini a Gorillini. Gyda'i gilydd maent yn cynnwys bodau dynol a nifer o berthansau darfodedig, y tsimpansî, y bonobo a'r gorila. Mae'r isdeulu hwn hefyd yn cynnwys pob Hominidae a ddatblygodd wedi i'r is-deulu o Orangutaniaid (neu 'hen wŷr y coed') sef y Ponginae hollti o linell yr epaod.
Mae gan y cladogram Homininae dair prif gangen, sy'n arwain at: gorilas, bodau dynol a tsimpansîs. Gwnaed hynny drwy esblygu dros amser drwy lwyth yr Hominini a'r islwythi Hominina a Panina, (gweler y siart isod). Ceir sawl rhywogaeth byw o tsimpansîs a gorilas ond dim ond un rhywogaeth byw o fodau dynol. Darganfuwyd olion o aelodau darfodedig o deulu'r Homo gan gynnwys Homo floresiensis a Homo denisova, prin 12,000 o flynyddoedd yn ôl (CP). Disgrifir organebau yn y dosbarth hwn yn hominine neu hominines (sy'n hollol wahanol i hominins a hominini).

Llinach esblygiad gyda'r is-deulu Homininae wedi'i amlygu. Oddi tano gwelir y ddau lwyth Hominini a Gorillini. Rhanwyd gydag amser i ddau genws: Homo a Pan. Nid yw'r islwythi wedi'u nodi ar y siart.