dcsimg

Morlo Cyffredin ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Ceir y Morlo Cyffredin (Phoca vitulina) o gwmpas glannau gogleddol Môr Iwerydd a'r Môr Tawel. Maent o liw brown neu lwyd, hyd at 1.85 medr o hyd ac yn pwyso hyd at 130 kilo. Credir fod tua 400,000 i 500,000 ohonynt yn y byd.

Mae'r Morlo Cyffredin yn un o'r ddau rywogaeth o Forlo a geir o gwmpas glannau Cymru, ond er gwaethaf yr enw, mae'n llai cyffredin na'r Morlo Llwyd.

 src=
Dosbarthiad y Morlo Cyffredin
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY