dcsimg

Gwas neidr y De ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Gwas neidr o deulu'r Aeshnidae yw Gwas neidr y De (lluosog: Gweision neidr y De; Lladin: Aeshna cyanea; Saesneg: Southern Hawker) sy'n bryfyn yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod). Dyma un o'r rhywogaethau mwyaf niferus drwy Ewrop.

Eu tiriogaeth yw gorllewin y Palearctig a llawer o Ewrop gan gynnwys yr Alban a de Sgandinafia yn y gogledd a chanol yr Eidal a gogledd y Balcanau yn y de. Eu tiriogaeth pellaf yn y dwyrain yw Mynyddoedd yr Wral ac i'r gorllewin: Iwerddon. Fe'i ceir hefyd yng ngogledd Affrica. Ar adegau maent i'w gweld yng Nghymru.[2]

Nodweddion

Mae'n was neidr eithaf hir, ac mae o faint mwy na'r cyffredin. Mae ganddo farciau gwyrdd ar gefndir du, ac mae gan y gwryw farciau gwyrdd hefyd ar ei abdomen. Mae Gwas neidr y De yn paru mewn dŵr sy'n llifo'n araf, ond mae'n hoff o fynd a dod allan o'i filltir sgwâr, ei gynefin, a gwelir ef yn aml mewn gerddi ac mewn coedlannnau agored. Mae ei gywreinrwydd yn ei ddenu allan o'i gynefin ac weithiau daw at bobl.

Wrth hedfan mae'n dal ei fwyd - pryfaid erall fel arfer, ond mae'r oedolyn ifanc yn bwyta pryfaid y dŵr, penbyliaid a physgod bychan. Yng ngorffennaf ac Awst, dair blynedd wedi iddynt ddeor, maent wedi datblygu digon i ddod allan o'r dŵr a dechrau hedfan.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Boudot, J.-P. (2014). "Aeshna cyanea". Rhestr Goch yr IUCN o rywogaethau dan fygythiad. Version 2014.2. International Union for Conservation of Nature. Cyrchwyd 29 August 2014.
  2. Bwletin Llên Natur Tynnwyd y llun sydd yno ar 6 Awst 2015 yng ngardd Maes Gwynedd, Groeslon, Waunfawr; adalwyd 02 Medi 2015

Dolennau allanol

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Gwas neidr y De: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Gwas neidr o deulu'r Aeshnidae yw Gwas neidr y De (lluosog: Gweision neidr y De; Lladin: Aeshna cyanea; Saesneg: Southern Hawker) sy'n bryfyn yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod). Dyma un o'r rhywogaethau mwyaf niferus drwy Ewrop.

Eu tiriogaeth yw gorllewin y Palearctig a llawer o Ewrop gan gynnwys yr Alban a de Sgandinafia yn y gogledd a chanol yr Eidal a gogledd y Balcanau yn y de. Eu tiriogaeth pellaf yn y dwyrain yw Mynyddoedd yr Wral ac i'r gorllewin: Iwerddon. Fe'i ceir hefyd yng ngogledd Affrica. Ar adegau maent i'w gweld yng Nghymru.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY