dcsimg

Picellwyr (teulu) ( велшки )

добавил wikipedia CY

Mae'n fwy na phosibl mai'r teulu yma o bryfaid, y Libellulidae (Cymraeg: teulu'r Picellwyr) ydy'r teulu mwyaf o weision neidr ar wyneb y Ddaear. Mae'n cynnwys yr isdeuluoedd: Corduliidae a'r Macromiidae yn ôl rhai, er bod cryn ddadlau am hyn gan naturiaethwyr. Hyd yn oed heb y ddau isdeulu hyn, mae'r teulu Libellulidae'n dal i gynnwys dros 1,000 o rywogaethau.

Mae eu tiriogaeth yn ymestyn dros wyneb y Ddaear, fwy neu lai, ond ceir ambell un, fel Libellula angelina sy'n hynod o brin. Mae llawer o aelodau'r teulu hwn yn lliwgar eithriadol, neu gyda bandiau ar eu hadenydd. Mae'r genws cysylltiedig, Plathemis yn cynnwys y 'cynffonau gwynion'. Mae'r genws Celithemis yn cynnwys sawl rhywogaeth hynod o liwgar, a welir yn yr Unol Daleithiau. Lliwgar hefyd ydy'r rhywogaethau yn y genera Trithemis a Zenithoptera ac ymhlith y rhai mwyaf cyffredin y mae: Tramea a Pantala.

Mae'r picellwyr canlynol i'w cael yng ngwledydd Prydain:

Delwedd Rhywogaeth Enw Lladin Gwledydd Female Libellula depressa bgiu.jpg Picellwr praff Libellula depressa  src= Cymru
 src= Lloegr LibellulaFulvaMale3.jpg Picellwr prin Libellula fulva  src= Lloegr Vierfleck (Libellula quadrimaculata).jpg Picellwr pedwar nod Libellula quadrimaculata  src= yr Alban
 src= Cymru
 src= Lloegr Orthetrum cancellatum.jpg Picellwr tinddu Orthetrum cancellatum  src= Cymru
 src= Lloegr KleinerBlaupfeilKreta1.JPG Picellwr cribog Orthetrum coerulescens  src= yr Alban
 src= Cymru
 src= Lloegr Darter August 2007-8.jpg Gwäell scarlad Crocothemis erythraea Sympetrum danae 2(loz).jpg Gwäell ddu Sympetrum danae  src= yr Alban
 src= Cymru
 src= Lloegr Sympetrum flaveolum 1(loz).jpg Gwäell asgell aur [F] Sympetrum flaveolum Darter August 2007-22 edit.jpg Gwäell wythien goch Sympetrum fonscolombei  src= Lloegr Sympetrum sanguineum - botanischer Garten Schönbrunn.jpg Gwäell rudd Sympetrum sanguineum  src= Cymru
 src= Lloegr Sympetrum striolatum 3(loz).jpg Gwäell gyffredin [G] Sympetrum striolatum  src= yr Alban
 src= Cymru
 src= Lloegr Highland Darter - geograph.org.uk - 923136.jpg Gwäell yr ucheldir [G] Sympetrum nigrescens  src= yr Alban Gemeine Heidelibelle (Sympetrum vulgatum) 4.jpg Gwäell grwydrol Sympetrum vulgatum SympetrumPedemontanumMale.jpg Gwäell resog Sympetrum pedemontanum LeucorrhiniaDubiaMale.jpg Picellwr wynebwyn Leucorrhinia dubia  src= yr Alban
 src= Cymru
 src= Lloegr Leucorrhinia pectoralis female.jpg Picellwr wynebwyn mawr [H] Leucorrhinia pectoralis Wandering glider horizontal edit1.jpg Y gleider crwydrol [I] [J] Pantala flavescens

Genera

Mae Libelluidae yn cynnwys y genera canlynol:

Galeri

Cyfeiriadau

  • Silsby, Jill. 2001. Dragonflies of the World. Smithsonian Institution Press, Washington D.C.

Dolennau allanol

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
лиценца
cc-by-sa-3.0
авторски права
Awduron a golygyddion Wikipedia
изворно
посети извор
соработничко мреж. место
wikipedia CY