Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn y llaethlys, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gloynnod y llaethlys; yr enw Saesneg yw Monarch, a'r enw gwyddonol yw Danaus plexippus.[3]
Mae maint adenydd y gwryw rhwng 8.9–10.2 cm (3½–4 modf.).[4]
Dyma, efallai, yr enwocaf o holl loynnod byw Gogledd America. Ers y 19g fe'i gwelir hefyd yn Awstralia (ble gelwir ef yn "wanderer"[5] a Seland Newydd. Gwelir ef hefyd yn yr Ynysoedd Dedwydd, yr Azores, ac ar ynys Madeira. Ar adegau prin, mae'n ymweld â gorllewin Ewrop a hyd yn oed gwledydd Prydain.[6]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae glöyn y llaethlys yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
|coauthors=
ignored (help) |work=
(help) Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn y llaethlys, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gloynnod y llaethlys; yr enw Saesneg yw Monarch, a'r enw gwyddonol yw Danaus plexippus.