dcsimg

Melyngoch plaen ( الويلزية )

المقدمة من wikipedia CY

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw melyngoch plaen, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy melyngochion plaen; yr enw Saesneg yw Old World Bollworm (neu corn earworm), a'r enw gwyddonol yw Helicoverpa armigera.[2][3] Fe'i ceir yn Ewrop, rhannau o Asia, Affrica, Awstralia ac Oceania.

 src=
O'r ochr
 src=
O'r top
 src=
O'r gwaelod

30–40 mm ydy lled ei adenydd ar eu heithaf.

Prif fwy y siani flewog ydy planhigion tomato, cotwm a phys a ffa o bob math.

Caiff ei gyfri'n bla mewn caeau cotwm. Gall ddodwy cannoedd o wyau bychain ar yr un pryd. Ni ddylid ei gymysgu gyda Helicoverpa zea, sydd ag enw gwyddonol tebyg.

Cyffredinol

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r melyngoch plaen yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

  1. Pest Risk Analysis.
  2. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  3. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
ترخيص
cc-by-sa-3.0
حقوق النشر
Awduron a golygyddion Wikipedia
النص الأصلي
زيارة المصدر
موقع الشريك
wikipedia CY

Melyngoch plaen: Brief Summary ( الويلزية )

المقدمة من wikipedia CY

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw melyngoch plaen, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy melyngochion plaen; yr enw Saesneg yw Old World Bollworm (neu corn earworm), a'r enw gwyddonol yw Helicoverpa armigera. Fe'i ceir yn Ewrop, rhannau o Asia, Affrica, Awstralia ac Oceania.

 src= O'r ochr  src= O'r top  src= O'r gwaelod

30–40 mm ydy lled ei adenydd ar eu heithaf.

Prif fwy y siani flewog ydy planhigion tomato, cotwm a phys a ffa o bob math.

Caiff ei gyfri'n bla mewn caeau cotwm. Gall ddodwy cannoedd o wyau bychain ar yr un pryd. Ni ddylid ei gymysgu gyda Helicoverpa zea, sydd ag enw gwyddonol tebyg.

ترخيص
cc-by-sa-3.0
حقوق النشر
Awduron a golygyddion Wikipedia
النص الأصلي
زيارة المصدر
موقع الشريك
wikipedia CY