dcsimg

Britheg frown ( الويلزية )

المقدمة من wikipedia CY

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw britheg frown, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy brithegion brown; yr enw Saesneg yw High Brown Fritillary, a'r enw gwyddonol yw Fabriciana adippe neu Argynnis adippe.[1][2] Mae i'w ganfod o Ewrop i dir mawr Asia ac i Japan.

Hed yr oedolyn yng Ngorffennaf ac Awst. Mae'r fenyw'n dodwy eu hwyau ar fathau o fioled, a gaiff eu bwyta yn eu tro gan y siani flewog.

Neithdar o blanhigion mwyar duon ac ysgall yw prif fwyd yr oedolyn.

Cyffredinol

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r fritheg frown yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Oriel luniau

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
ترخيص
cc-by-sa-3.0
حقوق النشر
Awduron a golygyddion Wikipedia
النص الأصلي
زيارة المصدر
موقع الشريك
wikipedia CY

Britheg frown: Brief Summary ( الويلزية )

المقدمة من wikipedia CY

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw britheg frown, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy brithegion brown; yr enw Saesneg yw High Brown Fritillary, a'r enw gwyddonol yw Fabriciana adippe neu Argynnis adippe. Mae i'w ganfod o Ewrop i dir mawr Asia ac i Japan.

Hed yr oedolyn yng Ngorffennaf ac Awst. Mae'r fenyw'n dodwy eu hwyau ar fathau o fioled, a gaiff eu bwyta yn eu tro gan y siani flewog.

Neithdar o blanhigion mwyar duon ac ysgall yw prif fwyd yr oedolyn.

ترخيص
cc-by-sa-3.0
حقوق النشر
Awduron a golygyddion Wikipedia
النص الأصلي
زيارة المصدر
موقع الشريك
wikipedia CY