Yr urdd o adar sy'n cynnwys elyrch, gwyddau a hwyaid yw Anseriformes. Heddiw, mae'r urdd yn cynnwys tua 170 o rywogaethau mewn tri theulu: Anhimidae (y sgrechwyr), Anseranatidae (y bioden-ŵydd) ac Anatidae (y rhywogaethau eraill i gyd). Fe'u ceir ledled y byd ac eithrio Antarctica ac maent yn byw yn agos i ddŵr fel rheol.
Mae'n debyg fod sawl aderyn ffosilaidd anferth megis y diatrymas a'r mihirungs yn perthyn i'r Anseriformes hefyd.