dcsimg

Meillionen ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Mae Meillion (sengl: Meillionen; Lladin: Trifolium), yn genws o tua 300 o rhywogaethau o blanhigion yn nheulu'r pys, sef Fabaceae. Mae gan y genws ddosbarthiad amlgenhedlig; mae'r amrywiaeth uchaf i'w gael yn Hemisffer Gogleddol cymedrol, ond mae nifer o rywogaethau ar gael yn Ne America ac Affrica, gan gynnwys uchderau mynyddoedd y trofannau. Maen't yn blanhigyn blynyddol, dwyflynyddol, neu'n blanhigyn lluosflwydd llysieuol. Mae'r dail yn dair-ddeiliog (yn anaml yn 5 neu 7 deiliog), gyda stipylau yn cystllu â coes y ddeilen, a phennau sbigynnau dwys o flodau bychain coch, piws, gwyn neu felyn; mae'r codenni sy'n cynnwys ychydig o hadau wedi eu amgau yn y blodyn.

Llên Gwerin

"Tegwyn yn hadu clofer o Ruthun”[1]

Clofer cymysg o goch a gwyn oedd hwn, mae’n debyg. Mae Tegwyn yn cofio hefyd mynd i fferm Coed Acas, ger Dinbych, i nôl clofer coch, clofer brasach. Mae hyn yn f’atgoffa o ddau enw oedd gennym ni, blant Uwchaled: ‘y borfa’n drwch o siwgwr coch a siwgwr gwyn’.[2]

Rhai Rhywogaethau

 src=
Meillion coch (T. pratense) mewn cae
 src=
Deilen meillionen wen (T. repens)
 src=
Blodau meillionen gedennog (T. arvense)
  1. Dyddiadur John Hugh Jones, Rhafod, Llangwm
  2. Sylwadau am sylw John Hugh Jones uchod gan Robin Gwyndaf, ei frawd
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Meillionen: Brief Summary ( Welsh )