Aderyn a rhywogaeth o adar yw Rhedwr Awstralia (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: Rhedwyr Awstralia) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Burhinus magnirostris; yr enw Saesneg arno yw bush stone-curlew neu bush thick-knee. Mae'n perthyn i deulu'r Rhedwyr (Lladin: Burhinidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Roedd yn arfer cael ei adnabod fel Burhinus magnirostris. Adnabyddir tri is-rywogaeth.[2]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn B. magnirostris, sef enw'r rhywogaeth.[3]
Un o'r aelodau mwyaf o'r teulu yw hwn, gan dyfu hyd at 58 cm.[4] Mae'n llwydfrown uwchben gyda rhesi tywyll ac mae'n wyn neu felynllwyd islaw. Mae'r pig cwta yn ddu, y dalcen yn wen, ac mae ganddo aeliau gwyn gyda streipen ddu o'r llygad lawr y gwddf. Mae'r llygaid yn fawr ac yn felyn, ac mae'r coesau yn hir a llwydaidd. Mae ei gri yn gyfrifol am un o'i enwau Awstralianaidd, sef weeloo. Mae'n chwibaniad uchel annaearol, nid yn annhebyg i'r gylfinir ond yn hirach a mwy amrywiol.[5] Fel arfer mae rhedwyr Awstralia yn canu gyda'r nos.
Fel arfer maent yn byw ar eu pennau eu hunain neu mewn parau. Maent yn swil a gwyliadwrus. Eu cynefin yw coetir agored gyda canghennau ar y llawr, deilbridd ac ychydig wair. Fe'i ceir hefyd mewn prysgoed ger traethau ac yn fwy diweddar ar gyrsiau golff, perllannau a phlanhigfeydd.[4] Maent yn fwy actif gyda'r nos. Yn ystod y dydd maent yn cysgodi gan ddibynnu ar eu cuddliw fel amddiffyniad. Maent yn arbenigo mewn hela anifeiliaid bychain y glaswelltir, megis llyffantod, pryfaid cop, pryfaid, molwsgiaid a chramenogion.
Mae'r fenyw yn dodwy dau wy fel arfer, sy'n lliw carreg gyda mannau brown a llwyd. Mae hyn yn digwydd yn ystod y gwanwyn fel arfer, ond yn gynt yn y gogledd na'r de.[6] Mae ganddynt ddawns caru nodedig. Byddai'r rhedwr yn sefyll gydag adenydd yn agored, cynffon i fyny a gwddf wedi'i ymestyn. Yna byddai'r adar yn martsio eu traed fel milwr yn marcio amser am awr neu fwy. Crafiad syml yn y tir yw'r nyth. Mae'r ddau riant yn rhannu'r gwaith o edrych ar ôl y nyth a chywion.[7]
Fe'i ceir ledled Awstralia heblaw am Tasmania, ble mae'n fudwr achlysuol.
Yn y de mae'r niferoedd wedi gostwng yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, yn bennaf oherwydd ysglyfaethu gan lwynogod, ond oherwydd ei ddosbarthiad eang a phoblogaethau sefydlog yn y gogledd fe'i ddynodwyd o 'gonsyrn lleiaf' gan yr IUCN (yn 2017).[8]
Mae'r rhedwr Awstralia yn perthyn i deulu'r Rhedwyr (Lladin: Burhinidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth enw tacson delwedd Rhedwr Awstralia Burhinus grallarius Rhedwr brych Burhinus capensis Rhedwr mawr y moelydd Esacus recurvirostris Rhedwr rhesog Burhinus bistriatus Rhedwr Senegal Burhinus senegalensis Rhedwr y dŵr Burhinus vermiculatus Rhedwr y moelydd Burhinus oedicnemus Rhedwr y traeth Esacus magnirostris Rhedwr yr Andes Burhinus superciliarisAderyn a rhywogaeth o adar yw Rhedwr Awstralia (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: Rhedwyr Awstralia) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Burhinus magnirostris; yr enw Saesneg arno yw bush stone-curlew neu bush thick-knee. Mae'n perthyn i deulu'r Rhedwyr (Lladin: Burhinidae) sydd yn urdd y Charadriiformes. Roedd yn arfer cael ei adnabod fel Burhinus magnirostris. Adnabyddir tri is-rywogaeth.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn B. magnirostris, sef enw'r rhywogaeth.